Newyddion
Archive
Popular Tags
Shw Mae, Gymydog. Dewch i mewn!
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi datgan Dydd Gwener, Medi 7fed, 2012, yn ‘Ddiwrnod SA32’, sy’n golygu mynediad am ddim i unrhywun sy’n gallu profi ei bod nhw’n byw yn yr ardal côd post arbennig hwn. Bydd y digwyddiad ‘Cwrdd â’r Cymdogion’ yn cynnwys anerchiadau pwysig gan staff yr Ardd, teithiau tywysedig tu ôl i’r [...]
No Comments
Tegeirianau llachar a hardd
Bydd yr ŵyl degeirianau blynyddol yn cael ei chynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Fedi 1-2. Unwaith eto, bydd meithrinfeydd o gartref a thramor yn cyfarfod yn yr Ardd ar gyfer penwythnos brolio a gwerthu amrywiaeth enfawr o degeirianau, yn amrywio o flodau lliwgar a phert i hardd a rhyfedd. Trefnwyd yr ŵyl gan [...]
No Comments
Swyn Anifeiliaid yn yr Ardd
Dewch i gwrdd â mîr-gath yn Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae Tropical Inc., sy wedi’i lleoli yng Nghaerwrangon, yn dychwelyd i’r Ardd er mwyn dangos eu casgliad anhygoel o greaduriaid, ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher, Awst 28 a 29. Bydd eu sioeau ‘Swyn Anifeiliaid’ yn digwydd am 11.30yb. Meddai David Hardy, Pennaeth Marchnata yn [...]
2 Comments
Gŵyl Dau-Ddiwrnod yn Torri Record
Mae’r ŵyl fwyaf i berfformwyr sy’n fenywod yng Nghymru yn digwydd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Awst 26-27. Mae Gŵyl Fenywod Celtaidd 2012 yn cynnwys mwy na 50 perfformiad dros ddau diwrnod, gan gynnwys yr enwau mwyaf yng ngherddoriaeth Cymru, fel Amy Wadge a Jen Wilson, ynghyd â cherddorion addawol eraill, a barddoniaeth, [...]
No Comments
Hwyl i’r teulu gyda Choed
Mae penwythnos llawn hwyl o’n blaenau yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Awst 18-19 ar gyfer Gŵyl Coed Cymru, a fydd yn apelio at gariadon pren, teuluoedd ac unrhyw un sy’n hoffi coed. Bydd yna lawer o bethau i’w gwneud a’u gweld gan gynnwys arddangosiadau crefft pren, gweithgareddau i’r teulu sy’n canolbwyntio ar goed, teithiau [...]
No CommentsGemau a Sbri
Ffaelu â mynd i’r Gemau Olympaidd? Felly pam na wnewch chi gymryd rhan yng ‘Ngemau’r’ Ardd Fotaneg Genedlaethol yn lle hynny. O Awst 6 i 10, gwahoddir ymwelwyr i gymryd rhan yng ‘Ngemau Olympaidd’ yr Ardd, a gweld pa mor bell y gallant daflu’r Waywffon Riwbob, faint mor gyflym y gallan nhw redeg yn y [...]
No Comments
Hwyl gyda Hebogau
Mae Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du nôl yn yr Ardd ddydd Sadwrn a dydd Sul Awst 11-12 am ddau ddiwrnod o arddangosiadau hedfan ysblennydd. Bydd hebogau harris, boncathod a thylluan fawr yn esgyn i’r awyr fel rhan o ddwy sioe, un am 12 y prynhawn a’r llall am 2pm, a bydd yna gyfle i ymwelwyr rhoi [...]
2 Comments







