Newyddion
Archive
Popular Tags
Cyfarth Cŵn yn yr Ardd
Caniateir cŵn ar dir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf. Ers agor i’r cyhoedd ym Mai 2000, ni chaniatawyd cŵn ar y safle 600 erw, sy’n cynnwys y Warchodfa Natur Genedlaethol. Ond, ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 9fed, agorir ei drysau i bob perchennog ci cyfrifol i arbrawf un-diwrnod. Meddai’r Curadur, Simon Goodenough: “Y [...]
14 Comments
Dyna lun!
Mae un o’r atyniadau y tynnir lluniau ynddi fwyaf yn lansio cystadleuaeth fydd yn sicr o ddenu ein ffotograffwyr mwyaf dawnus. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn annog dynion a menwyod camera i anfon eu hoff ddelweddau o’r cyrchfan hwn yn Sir Gaerfyrddin, ac ennill y cyfle i’w cynnwys yng nghalendr 2015 yr Ardd. Mae’r gystadleuaeth [...]
No Comments
Brenhines y Gân
Mae brenhines canu gwerin Cymraeg yn perfformio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mawrth 3ydd. Mae Siân James yn gerddorwraig, yn delynores ac yn eicon. Wedi’i hamgylchynu â cherddoriaeth a chanu ers ei phlentyndod, mae ganddi “lais sydd bron yn ddolurus o bur” (yn ôl y diweddar barchedig John Peel). Mae ganddi stôr [...]
No Comments
Côr Arobryn yn Perfformio ymhlith y Blodau
Mae un o gorau mwyaf arobryn Cymru yn perfformio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 2. Mae Côr Meibion Llanelli, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau, yn cymryd y llwyfan yn y Tŷ Gwydr Mawr o 2.00yp er mwyn difyrru torfeydd penwythnos Dydd Gŵyl Dewi. Ffurfiwyd y Côr 48 mlynedd yn [...]
No Comments
Syllu ar y Sêr a’r Planedau (gyda lwc)
Bydd sêr-dremwyr yn croesi eu bysedd er mwyn cael y cyfle i fwrw golwg ar rai o sêr y ffurfafen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Gwener, Chwefror 22. Mae’r trefnwyr, o Gymdeithas Seryddol Abertawe, yn gweddïo am ffurfafen glir, gan fod hwn yn gyfle arbennig i weld y blaned Iau a’r Lleuad, heb [...]
No Comments
Trydar a Chrawcian
Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar wylio adar dros benwythnos Chwefror 16-17, gyda chymorth arbenigwyr o Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar Cymru a’r Ymddiriedaeth Adareg Brydeinig. Bydd dwy daith gerdded dywysedig y dydd ar Ddydd Sadwrn (16eg) a Dydd Sul (17eg) o amgylch yr Ardd a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Mae Rheolwr Ystad [...]
1 Comment
Hwyl i’r Teulu
Gall pobl ifanc a phlant fwynhau eu hunain a mynediad AM DDIM i bobl dan 16 oed yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod hanner tymor nesa, gan gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau hwyliog. Mae cyfle iddynt hau a medi; cymysgu dognau a golchdrwythau; a gwneud pethau hyfryd ar gyfer eich gerdi eu [...]
6 Comments
Caneuon, Llinynnau a Dirgelwch y Coed
Mae cerddoriaeth i’w glywed yn yr awyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni – ynghyd â mynediad AM DDIM i bawb. Mae mynediad am ddim i bawb ar Ddydd Gwener, Mawrth 1af, i anrhydeddu ein nawddsant, ac mae cyfle ichi roi tro ar ganu’r delyn, gwylio llwy garu yn cael ei [...]
No Comments






