Beth Yw Ffwng
Parth 1 – Beth yw ffwng?
Mae ymwelwyr yn mynd i mewn i’r arddangosfa trwy dwnnel, fel petaent yn mynd o dan y ddaear i deyrnas arall. Yn yr ystafell gyntaf gwelant fadarch fel tyrau. Yma cânt eu cyflwyno i fioleg sylfaenol, amrywiaeth a’r defnydd o ffwng. Mae’r gofod yn cynnwys modelau anferth gwir-faint o sylweddau ffrwytho madarch a deunydd byw o ffwng bio-ymoleuol (goleuo yn y tywyllwch).
Gwahoddir ymwelwyr i chwarae gêm o ‘Roulette Ffwng’, yn ceisio adnabod pa rai sy’n wenwynig a pha rai sy’n fwytadwy. Hefyd ceir ffilmiau o hadau’n saethu (yr organeb â’r cofnod cyflymaf) a ffotograffiaeth treigl amser o dyfiant madarch.
Drwy’r holl arddangosfa cyflwynir rhai ffeithiau diddorol a manion ar ffurf graffeg C ac A, sy’n arbennig o hawdd i gynulleidfaoedd iau i gymryd rhan ynddynt.






