Pwmp Gwres Ffynhonnell Dŵr
Mae un o’n pyllau sydd wedi’u hadfer, Pwll yr Ardd, yn gwresogi ein Canolfan Ddarganfod Dŵr Cymru.
Swnio’n wallgof on’d yw e?
Ond dyw e ddim – rhywbeth fel oergell i’r gwrthwyneb.
O dan y dŵr mae llawer o bibau torchog yn llawn hylif. Pan fydd tymheredd y dŵr yn uwch na 5°C, mae’r hylif hwn yn anweddu. Mae’r anwedd yn troi’n ôl yn hylif y tu fewn i’r adeilad, gan ryddhau’r gwres o’r dŵr trwy’r rheiddiaduron.
Beth sy’n pwmpio’r hylif o gwmpas?
Trydan. Ond mae pympiau gwres yn darparu hyd at 4 gwaith mwy o ynni nag maent yn ei ddefnyddio.
Arbed arian?
Siŵr iawn. Gall pwmp gwres gwtogi eich bil gwres hyd at 30 i 40%.
Da i’r amgylchfyd?
Da iawn. Mae pympiau gwres yn symud gwres o gwmpas yn hytrach na chynhyrchu ynni newydd.
Allech chi ddefnyddio hyn yn y cartref?
Gallech. Gall pympiau gwres gynhyrchu gwres o ddŵr llonydd neu redegog ac o’r ddaear.






