44. Pont Felin Gât
Ar Hydref 9fed 2010, agorwyd Pont Felin Gât yn ffurfiol i ymwelwyr yr Ardd gan yr arwr rygbi Gareth Edwards, sef ein Llywydd Anrhydeddus ni.
Beth yw Pont Felin Gât?
Mae’r dyffryn coediog hardd hwn yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las ac yn gyfle i ymwelwyr weld arddangosfa odidog o flodau coetir hynafol ac olion hiraethus Parc Rhaglywiaeth Neuadd Middleton. 200 mlynedd yn ôl roedd Pont Felin Gât yn enwog am ei tharddellau d?r haearn sydd wedi’u haneru gan gylch o lynnoedd. Heddiw gwelir digon o gliwiau o’i defnydd blaenorol ac mae’n amhosibl osgoi’r rhaeadr swnllyd sy’n dal i lifo’n osgeiddig 200 mlynedd wedi iddi gael ei ffurfio – rydym newydd adeiladu ardal arsyllu arbennig fel y gellir ei gweld yn ei holl ogoniant.
Sut mae dod o hyd iddi?
Prin deng munud o gerdded sydd i Bont Felin Gât o fwyty’r Ardd. Cliciwch ar Fap Gwarchodfa Natur Waun Las i weld sut mae cyrraedd yno. Mae arwyddion dehongli yn y goedwig sy’n dweud wrthych am Flodau Bywyd gwyllt a Hanes Pont Felin Gât.
Mae un o wirfoddolwyr yr Ardd wedi ysgrifennu blog ar gerdded ym Mhont Felin Gât, sef Ewch i weld.
Ateb Gwyrdd i Broblem Naturiol
Yn ystod 2010, bydd Pont Felin Gât yn cael ei defnyddio i dreialu ffordd newydd o reoli difrod i lannau afonydd. Yn lle defnyddio rhwyll wifrog a ‘gabions’ wedi’u llenwi â cherrig, ni yw’r cyntaf yng Nghymru i arbrofi gyda sanau yn llawn compost t? – darllenwch fwy neu gwyliwch ffilm fer ar y trywydd yn dangos Tim Bevan, Curadur yr Ystâd.
Os ydych chi’n byw’n lleol ac yn defnyddio Pont Felin Gât, darllenwch Hysbysiad i Drigolion Lleol







