Ynni Cynaliadwy
Mae’r Ardd Fotaneg yn anelu at fod yn garbon niwtral.
I’n helpu i wneud hyn rydym yn edrych ar wahanol ffyrdd o gynhyrchu ynni cynaliadwy.
Edrychwch ar wahanol agweddau rydym yn eu cymryd – mae’n bosibl y cewch ysbrydoliaeth i’w defnyddio yn y cartref, yr ysgol, y coleg neu yn y gwaith,
Am ddyfodol cynaliadwy….
- Diffoddwch bob teclyn nad yw’n hanfodol a hynny wrth y wal pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.
- Yn yr ysgol trefnwch dîm o swyddogion ynni ymhob dosbarth i fod yn gyfrifol am sicrhau fod goleuadau a theclynnau wedi’u diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio ac ar ddiwedd bob dydd.
- Defnyddiwch fylbiau golau ynni isel – mae’r rhain yn parhau’n hirach ac yn defnyddio llawer llai o drydan.
- Beth am brynu tortsh neu radio solar neu un sy’n weindio? Maent yn lawer o hwyl ac yn parhau am oes.
Os ydych eisiau gweld esiamplau ymarferol o fywyd effaith-isel, mae Lammas ar gael i gefnogi datblygiad pentrefi eco yng Ngorllewin Cymru.
Am bron i 40 mlynedd, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) ym Machynlleth wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl ar draws y DU sydd eisiau cael atebion ymarferol ar gyfer byw’n gynaliadwy.






