Dau gan mlynedd yn ôl, pan oedd Ystâd Middleton yn cael ei drawsnewid yn barc d?r, roedd gwyddor daeareg yn ei grud. Nid oedd unrhyw un yn gwybod o ble ddaeth y creigiau ac ers faint yr oedden nhw wedi bodoli. Yna, sylweddolodd daearegwyr y 19eg ganrif fod creigiau Cymru yn dal cyfrinachau hanes daearegol y Ddaear. Adlewyrchir hyn yn yr enwau Silwraidd, Ordoficaidd a Chambriaidd i ddisgrifio cyfnodau amser daearegol: roedd y Silwriaid a’r Ordoficiaid yn llwythi Cymreig, a Cambria yw’r enw Rhufeinig ar Gymru.  

Mae ‘Creigiau’r Oesoedd’ yn adrodd hanes daeareg Cymru gan ddefnyddio cerrig a gyfrannwyd o bob cwr o Gymru. Wrth i chi gerdded i fyny’r Rhodfa, mae’r creigiau’n ffurfio dilyniant o’r hynaf i’r ieuengaf, wedi eu dyddio mewn miliynau o flynyddoedd. Maen nhw’n dangos pwysigrwydd daeareg y broses o benderfynu ar siâp ein tirwedd a’r priddoedd ar y tir.


1. Mae’r creigiau hynaf (ochr maes parcio’r Rhodfa) yn Gyn-gambriaidd, Gwenithfaen Coedana o Sir Fôn. Maen nhw’n greigiau igneaidd sy’n dyddio o’r cyfnod Cyn-gambriaidd. Maen nhw’n chwech i saith can miliwn mlwydd oed. Fe’u ffurfiwyd o fagma tawdd yn ddwfn yng nghrawen y ddaear ac felly nid oes unrhyw ffosilau. Daw’r ffosilau cynharaf o’r cyfnod yma yng Nghymru o ardal Caerfyrddin.  

2. Y creigiau nesaf yw’r rhai Cambriaidd, llechi o Benrhyn. Maen nhw’n greigiau metamorffig h.y. creigiau o ronynnau mân a ffurfiwyd gan fwd ar wely cefnfor dwfn ac yna fe’u hanffurfiwyd o dan wasgedd a gwres uchel. Prin iawn y maen nhw’n cynnwys unrhyw ffosilau. Maen nhw’n 520 miliwn mlwydd oedd.

3. Mae creigiau Ordoficaidd yn 465 miliwn mlwydd oed. Roedd yr amser hwn yn gyfnod pwysig o weithgarwch folcanig yng Nghymru. Daw’r creigiau gwyrdd tywyll hyn o’r enw Rhyolit o Hwlffordd.

4. Mae creigiau Silwraidd yn 430 miliwn mlwydd oed. Daw’r enghreifftiau o ardal Aberystwyth. Maen nhw’n gerrig silt llwyd tywyll, neu Rutiau Aberystwyth, a dyddododd yn ystod stormydd mewn d?r dwfn. Ychydig iawn o ffosilau sydd ynddynt. Mae cerrig o oedran tebyg yn ardal Llanymddyfri yn cynnwys ffosilau sy’n debyg i gregyn a chawsant eu dyddodi mewn d?r bas ymhell o’r lan.

5. Mae creigiau Defonaidd yn 390 miliwn mlwydd oed. Maen nhw’n dywodfeini coch a llwyd a ddaeth o Hen Dywodfaen Coch Aberhonddu. Mae’r rhain yn ddyddodion cyfandirol ac yn cynnwys rhai o’r planhigion tir cynharaf. Yn ystod y cyfnod hwn roedd Cymru ar ffin ddeheuol cyfandir enfawr oedd yn ymestyn ar hyd y cyhydedd. 

6. Mae’r creigiau Carbonifferaidd Isaf yn 335 miliwn mlwydd oed. Maen nhw’n galchfeini – creigiau a gynhyrchwyd mewn moroedd trofannol cynnes sy’n ymgorffori riffiau a llawer o gregyn a gafodd eu ffosileiddio yn ddiweddarach. Daethpwyd o hyd i’r creigiau hyn yng Nghanolbarth Cymru ac fe ddaethant o ochr gogleddol a deheuol yr ehangdir.    

7.  Mae’r creigiau Carbonifferaidd Uchaf yn dod o Abercarn yng Ngwent ac maen nhw’n 302 miliwn mlwydd oed. Maen nhw’n dywodfeini garw sy’n cynnwys digonedd o weddillion planhigion (marciau duon) a ddaeth yn yr afonydd o’r llystyfiant ar orlifdiroedd a’r corsydd a gynhyrchodd glo.