Tua hanner ffordd i fyny rhan uchaf y Rhodfa, fe ddewch o hyd i goeden fwyaf prin Cymru – Sorbus leyana (Cerddinen y Darren Fach).

Dim ond 17 ohonynt sydd yn y gwyllt, pob un ohonynt yn glynu wrth ochrau clogwyni calchfaen serth ym Mannau Brycheiniog. 

Faint ohonynt oedd yn arfer bodoli?

Nid oes unrhyw un yn gwybod.

Dim ond yn 1896 y darganfuwyd y goeden hon ac ni chafodd ei henwi tan 1934.

Pam ei bod mor brin?

Tair ystyriaeth.

Dim ond yn ddiweddar y mae wedi esblygu.

Nid yw’n gallu ymdopi gydag anifeiliaid pori.

Nid yw’n atgynhyrchu yn hawdd.

Sut ydyn ni yn ei rhwystro rhag diflannu’n llwyr?

Cadwraeth oddi ar y safle – rydyn ni’n sefydlu poblogaeth o goed yn yr Ardd rhag ofn bydd y rhai gwyllt yn marw. Mae’r rhain wedi cael eu lluosogi o’r coed gwyllt trwy drawsblannu.

Cadwraeth ar y safle – Gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, rydyn ni’n ymchwilio tarddiad genetig ac ecoleg y goeden. Bydd hyn yn ein helpu i’w diogelu yn y gwyllt. 

Mae Cerddin y Darren Fach yn blodeuo rhwng Mai – Mehefin, ac yn ffrwytho o Awst – Hydref.

Mae yna hefyd lawer o Gerddin y Darren yn ein gwely o Blanhigion Prin Cymru tu ôl Theatr Botanica, ac rydyn ni yn ddiweddar wedi plannu Llwyni Cerddin nesaf i’n Peiriant Byw (rhif 27 ar y map).

Mae’r casgliad hwn o gerddin Prydain yn rhan o’n rhaglen gadwraeth. Mae’n cynnwys y 6 math sy’n tyfu yng Nghymru yn unig ac mae ychydig ohonynt o dan fygythiad difodiant. Trwy gadw’r casgliad hwn, mae ein garddwriaethwyr yn dysgu sut i luosogi a thyfu’r coed hyn a chreu poblogaethau wrth gefn a allai un dydd gael eu plannu yn y gwyllt. Ar yr un pryd, mae gan fotanegwyr fynediad hawdd i blanhigion ar gyfer adnabod y gwahaniaethau rhwng rhywogaethau (mae llawer ohonynt yn anhygyrch yn y gwyllt) ac ymchwilio i darddiad genetig ac ecoleg y coed hyn. 

Mae’r llun yn dangos yr Athro Charles Stirton, Cyfarwyddwr cyntaf yr Ardd, yn plannu coeden a enwyd ar ei ôl, Sorbus stirtoniana, yn ardal y Llwyni Cerddin yn 2010.