19. Y T? Trofannol
Yn 2007 fe agoron ni D? Trofannol newydd yn yr Ardd Ddeufur. Tu fewn iddo fe welwch rai o blanhigion mwyaf prydferth y byd. Mae ganddynt ddau beth yn gyffredin.
- maen nhw i gyd yn dod o ardaloedd trofannol y byd
- fel planhigion eraill yn y cwadrant hwn o’r Ardd Ddeufur, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fonocots (planhigion sy’n tyfu o’r ddaear gydag unhad-ddeilen)
Mae’r planhigion hyn wedi datblygu rhai nodweddion rhyfeddol i’w helpu i dyfu yn hinsawdd eithriadol o boeth a thywyllwch y jyngl.
Mae llawer yn perthyn i’r pum teulu pwysicaf o blanhigion trofannol – y tegeirianau, planhigion sinsir, arymaidd, palmwydd a bromeliaid.
Pwy ddyluniodd y T? Trofannol?
Cynlluniwyd yr adeilad hwn gan y pensaer enwog o Gymru John Belle, sy’n cael ei gydnabod am adfer rhai o dirnodau mwyaf enwog UDA gan gynnwys Gorsaf Drenau Ganolog Efrog Newydd a’r Amgueddfa Mewnfudo Genedlaethol ar Ynys Ellis.
Penwythnos G?yl Tegeirianau. Cynhelir y digwyddiad hwn fel arfer tua chanol Medi bob blwyddyn ac mae’n cynnig cyfle i bobl weld – a phrynu! – y blodau gorau o brif blanhigfeydd Ewrop. Mae hefyd yn cynnwys cyfres o arddangosiadau a sgyrsiau – ar gyfer dysgwyr ac arbenigwyr – gan gynnwys ‘Gofalu am Degeirianau fel planhigion t?’, ‘Tyfu Rhywogaethau Anarferol’ a ‘Tegeirianau yng Nghymru’.






