28. Tai Gwydr y Blanhigfa
Mae ein tri th? gwydr y blanhigfa (a pholydwnnel enfawr yr ochr draw iddynt) yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yr Ardd Fotaneg. Ynddynt rydyn ni’n lluosogi planhi
gion newydd i’w defnyddio yn rhannau amrywiol yr Ardd Fotaneg, a chynnal a chadw casgliadau wrth gefn. Mae’r un mwyaf yn cynnwys planhigion ar gyfer y T? Gwydr Mawr ac rydyn ni wedi tyfu llawer ohonynt o hadau a gasglwyd yn y gwyllt. Mae un arall, a oedd yn cael ei ddefnyddio yn wreiddiol fel cwarantin (pan oeddem ni’n mewnforio planhigion byw o dramor), wedi cael ei drawsnewid ar gyfer planhigion trofannol. Mae defnyddio’r ardaloedd cefn hyn yn golygu y gallwn ni gylchdroi planhigion gan arddangos y rhai sy’n blodeuo a symud o’r golwg y rhai sydd angen ychydig o ofal. Defnyddir y polydwnnel i luosogi a thyfu planhigion gwydn er mwyn eu harddangos tu allan.
Adeiladwyd Tai Gwydr y Blanhigfa gan Jones Bros (Henllan) Ltd. o Gaerfyrddin. Climate Control o Guernsey a osododd y system rheoli hinsawdd.







