Ymweliadau Teuluoedd
Mae teuluoedd yn cael amser ardderchog yma yn yr Ardd Fotaneg.
Pam?
Wel, mae llawer o bethau i’w gwneud- edrychwch ar y ffilm fer ardderchog hon i gael syniad (mae’n dangos y comedïwr enwog Rhod Gilbert yn cael hwyl gyda’r plant yma).
Fel arfer mae gennym deithiau tymhorol i’r teuluoedd eu cwblhau gyda’i gilydd, lle caiff plant ac oedolion eu herio i chwilio am blanhigion a datrys cliwiau.
Yn ystod gwyliau ysgol, rydyn ni’n trefnu gweithgareddau y bydd plant (ac oedolion) yn eu mwynhau yn ein barn ni – edrych trwy feicrosgopau, adeiladu cuddfannau, arlunio, gwneud a phlannu. Yr haf hwn mae gennym raglen lawn o ddiwrnodau yn seiliedig ar themâu- Bywyd Dirgel Planhigion ar ddydd Llun, Hanes Cudd ar ddydd Mawrth, Beth sy’n llechu yn y dŵr ar ddydd Mercher, Celf ar ddydd Iau a Hwyl gyda’r Ffyngau ar ddydd Gwener - dyma’r manylion.
Os yw’ch plentyn am chwarae’n unig, nid yn unig mae gennym ddigon o le i redeg o gwmpas, mae gennym hefyd ein Maes Antur Cyffro’r Coed , ardal chwarae coed helyg gyda sleidiau, fframiau dringo, twneli a blociau cerdd.
Mae gyda ni hefyd cynifer o bethau ffantastig i’w gweld yma- edrychwch ar ein rhestr o bethau hynod a rhyfeddol fydd yn apelio at ein hymwelwyr iau.
Yn olaf mae’r Criw Gwyllt, clwb arbennig i rai rhwng 5 ac 16 oed sydd am barhau i ddychwelyd yma am eu bod yn cael amser mor dda.







