26. Tŷ Myddfai (nid yw ar agor i’r cyhoedd)
Mae canolfan wyddoniaeth o’r radd flaenaf yn edrych dros yr Ardd Fotaneg. Mae’n cynnwys labordai sydd wedi’u dylunio i helpu busnesau Cymru i wneud ymchwil biogemegol.
Mae’r llawr isaf yn gartref i dîm gwyddoniaeth yr Ardd – edrychwch ar yr ymchwil sydd ar waith ganddynt ar hyn o bryd.
Mae hefyd yn cynnwys llyfrgell ac archif yr Ardd.
Mae’r llawr uchaf a rhan o’r llawr isaf yn gartref i Morvus, cwmni sy’n gwenud ymchwil biogemegol.







