Pa Mor Wyrdd yw’r Ardd?
Mae’r Ddaear yn dioddef o effeithiau newid hinsawdd ar raddfa gyflym diolch i ni – bodau dynol. Rydyn ni hefyd yn defnyddio llawer o’n hadnoddau naturiol gwerthfawr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gyd leihau faint o ynni a ddefnyddiwn.
Yma yn yr Ardd rydyn ni’n rhoi cynnig ar dechnolegau a syniadau gwyrdd newydd i ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lleihau’r adnoddau a ddefnyddiwn. Hoffem eu rhannu gyda chi – mae’n bosibl y byddant yn ddefnyddiol i chi yn eich cartref, yn eich gweithle, yn eich ysgol neu yn eich coleg.
Rydyn ni wedi creu cymeriad cartŵn newydd, Lili Lloyd, i gyfleu’r syniadau newydd hyn. Mae Lili yn seiliedig ar Lili’r Wyddfa (Lloydia serotina), blodyn gwyn prydferth sy’n tyfu ar lechweddau Eryri yng Ngogledd Cymru. Mae’n debygol o fod y planhigyn cyntaf yn y DU i ddiflannu oherwydd cynhesu byd-eang.
Dilynwch y dolenni hyn i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud a’r hyn y gallwch chi ei wneud.
Cadw Dŵr
Trin Dŵr Gwastraff yn Naturiol
Addysgu ar gyfer Cynaliadwyedd
Llwybr Planhigion a Newid yn yr Hinsawdd
Ariannwyd y tudalennau hyn a’r Llwybr Technoleg Werdd gan Lywodraeth Cymru trwy ei Academi Wyddoniaeth Genedlaethol. Crëwyd cartwnau Lili Lloyd gan gwmni Paul Broughton Design sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.







