Awgrymiadau ar gyfer Garddio Bywyd Gwyllt
1. Dewiswch blanhigion aeron, ffrwythau, cnau a hadau
Mae aeron, cnau, ffrwythau a hadau’n darparu bwyd pwysig yn yr hydref a’r gaeaf ar gyfer adar a mamaliaid bach. Maent hefyd yn edrych yn dda yn yr ardd.
Awgrymiadau o Rywogaethau
Aeron: draenen wen, celyn, cerdinen
Ffrwythau: afalau, ceirios, draenen ddu
Cnau: collen, ffawydden
Hadau: artisiog, blodyn haul, cribau’r pannwr
2. Neithdar trwy’r flwyddyn
Plannwch blanhigion cyfoethog mewn neithdar i ddarparu bwyd ar gyfer y pili pala, y gwyfyn, y wenynen a’r pryf hofran. Mynnwch fod rhywbeth yn ei flodau trwy gydol y flwyddyn.
Awgrymiadau o rywogaethau
Gwanwyn: eirlysiau, clychau’r gog, briallu Mair,
Haf: ffacbys, briwydd felen, meillion coch, pengaled, clafrllys
Hydref: Iorwg
Creigardd a llethrau: y goesgoch, pedol y march, llin y fagwyr, triaglog coch, llin y llyffant, mefus gwyllt.
3. Peidio â bod yn rhy daclus
Gadewch rai mannau o’r lawnt a’r ardd i dyfu’n “wyllt” – yn dda ar gyfer amffibiaid a phryfed sy’n gaeafu.
4. Bwydo’r adar
Mae gwahanol fwydydd adar a gwahanol offer bwydo yn addas ar gyfer gwahanol rywogaethau. Glanhewch yn rheolaidd i atal haint a dilynwch ganllawiau BTO neu RSPB.
5. Adeiladu twmpath o goed neu gerrig
Mae gadael twmpath o foncyffion mewn mannau cysgodol lle nad ydynt yn cael eu haflonyddu neu osod cerrig gwastad o gwmpas yr ardd yn helpu ysglyfaethwyr pryfed megis neidr gantroed, chwilen ddaear, broga neu hyd yn oed y draenog.
6. Nodweddion dŵr
Gall hyd yn oed y nodwedd ddŵr leiaf fod yn fuddiol i fywyd gwyllt. Wedi’i leoli’n ofalus bant oddi wrth gathod cudd mewn safle heulog, gydag ymylon ar osgo graddol, gall nodwedd ddŵr ddarparu lle diogel i yfed, ymdrochi a hyd yn oed i fridio. Peidiwch ag ychwanegu pysgod addurnol gan y byddant yn bwyta’r bywyd gwyllt!
7. Compost di-fawn
Mae defnyddio compost cartref yn lle mawn yn arbed cynefinoedd corsydd mawn pwysig, sy’n gartref i lawer o fywyd gwyllt prinnaf a mwyaf trawiadol Prydain.
8. Cloddiau a waliau
Mae cloddiau’n briffyrdd pwysig, yn fannau cysgodi ac yn ffynhonnell fwyd trwy gydol y flwyddyn. Mae’n well gan wenyn nythu mewn hen waliau sy’n wynebu’r de felly cymerwch ofal pan fyddwch yn ail-bwyntio.
9. Blychau nythu
Gwnewch neu prynwch flychau nythu ar gyfer adar, ystlumod, pryfed, draenogod a hyd yn oed lyffantod – byddant i gyd yn bwyta eich plâu gardd. Ond cadwch hwy’n ddiogel rhag cathod a chŵn.
- Gosodwch flychau adar mewn man cysgodol yn wynebu’r dwyrain
- Gosodwch flychau ystlum mewn grwpiau o dri, yn wynebu gwahanol gyfeiriadau, yn uchel i fyny ar goed mawr
- Mae mannau cynnes, cysgodol yn dda ar gyfer blychau pryfed
- Mae’n well gan lyffantod a brogaod gorneli tawel, tywyll heb aflonyddwch.
10. Garddio’n organig
Mae chwynladdwr, ffwngleiddiad a phryfleiddiad (gan gynnwys peledi slyg) yn lladd rhywogaethau llesol yn ogystal â rhai niweidiol. Mae chwynnu â llaw, taenu, ffabrig gwrth-chwyn a phlannu gorchudd daear da yn lleihau’r angen am chwistrellu.






