Natural Waste Water Treatment
Rydyn ni’n ailgylchu dŵr ein toiledau gyda math newydd o dechnoleg werdd. Rydyn ni’n ei alw yn y Peiriant Byw.
Caiff carthffosiaeth, a’r gwastraff sy’n mynd i lawr sinciau ein bwyty, eu pwmpio i mewn i danc tanddaearol. Mae’r garthffosiaeth solid yn disgyn i waelod y tanc septig ac mae’r dŵr yn cael ei bwmpio i mewn i lyn mawr yn ein Canolfan Ynni.
Sut mae hyn yn gweithio?
Yma mae creaduriaid bach yn bwyta’r pethau brwnt. Mae angen llawer o ocsigen ar y bacteria hyn felly rydyn ni’n pwmpio aer ar draws y llawr graeanog. Gelwir y dechnoleg weddol newydd hon yn ‘awyriad gwelyau gorfodol’.
Mae cyrs tal yn helpu i reoli llif y dŵr. Mae bacteria hefyd yn cydio wrth wreiddiau’r cyrs ac felly mae nifer y bacteria yn cynyddu.
I ble mae’r dŵr yn mynd?
Mae’n dyfrhau coed mewn cae cyfagos. Bydd y coed hyn yn y pendraw yn cael eu troi yn danwydd ar gyfer ein boeler biomas.
Os hoffech wybod mwy, enw’r cwmni a osododd y dechnoleg newydd yma yw ARM Group Ltd. Edrychwch ar ei astudiaeth achos ar dreuliant pŵer y gwely cyrs hwn.
Dyma ychydig o awgrymiadau i chi ar gyfer eich cartref………….
- Mae defnyddio canyddion cryf yn ein sinciau a’n toiledau nid yn unig yn lladd germau ond pob math o fywyd dyfrol arall hefyd. Mae yna ddewisiadau ‘gwyrddach’ na brandiau enwog y powdrau golchi a’r hylifau golchi llestri.
- Mae toiledau yn defnyddio tua 30% o’r cyfanswm o ddŵr a ddefnyddir mewn un tŷ. Bydd rhoi ‘water hog’ yn y tanc dŵr yn arbed 2 litr o ddŵr pob tro yr ydych yn fflysio. Mae’n bosib bod eich cyflenwr dŵr yn eu gwerthu neu gallech lenwi potel blastig yn llawn dŵr a’i rhoi yn y tanc dŵr.
- Defnyddiwch ddulliau gwyrddach i lanhau eich cartref – mae’n iachach i chi yn ogystal â’r blaned!!
- Trowch y tap i ffwrdd pan ydych yn brwsio eich dannedd – gallwch arbed 3 litr o ddŵr.






