Boiler Biomàs
Mae dŵr wedi’i wresogi gan fiomàs yn gwresogi’r Bloc Stablau, Tŷ Principality, y Tŷ Gwydr Mawr a’r meithrinfeydd planhigion.
Beth yw ystyr biomàs?
Stwff o blanhigion yw e y gallwn ni ei losgi i greu gwres ac ynni – yn arbennig malurion coed.
Ydy hyn yn dda i’r amgylchedd?
Ydy wir. Mae planhigion yn amsugno CO2 ac yn rhyddhau’r un faint pan gânt eu llosgi– dyma yw ynni carbon-niwtral.
O ble mae’r coed yn dod?
Coed yn yr Ardd a fforestydd mawr Cymru.
A ellir ei ddefnyddio yn y cartref?
Gellir. Gall stôf wresogi un ystafell a’ch holl ddŵr poeth. Mae bwyleri biomàs yn gwresogi nifer gynyddol o ofod swyddfeydd hefyd.
Os hoffech wybod mwy dyma rai dogfennau i’ch helpu chi.
Mae un gan Carbon Trust – Biomass Heating a practical guide for potential users
Y llall yw – Biomass – A Burning Issue - gan Nick Grant ac Alan Clarke
****Mae’r Ardd ar hyn o bryd yn y broses o uwchraddio’r boiler biomàs Byddwn yn rhoi manylion i chi am hyn pan fydd y broses dendro wedi’i chwblhau.****






