Tŷ Iâ
Ar ochr bryn, yn edrych i lawr ar ochr isaf y Rhodfa, mae ein Tŷ Iâ yn esiampl wych o dechnoleg newydd a hen.
Mae’n adeilad lle’r arferid storio iâ 200 mlynedd yn ôl – cyn dyfeisio oergelloedd a rhewgelloedd trydan. Defnyddid yr iâ hwn yn bennaf i gadw bwyd y tirfeddiannwr cyfoethog yn ffres.
O ble roedd yr iâ’n dod?
Roedd peth iâ’n cael ei gasglu o lynnoedd wedi rhewi yn y gaeaf. Ond roedd y rhan fwyaf yn cael ei brynu oddi wrth fasnachwyr yn gwerthu blociau iâ wedi’u morthwylio o rewlif Sgandinafaidd.
Technoleg werdd?
Mae’r golau y tu fewn i’r Tŷ Iâ’n cael ei bweru gan yr haul.
Nid oes angen prif wifren chwaith ar y blwch llwyd yn y blaen. Mae’r pŵer oddi wrthych chi’n troi’r ddolen a phanel solar bach ar y copa’n caniatáu i sŵn ddod allan.
Mae hyn yn dechnoleg werdd newydd wedi’i ddatblygu gan gwmni wedi’i leoli ym Mhort Talbot, Blackbox AV. Cyn bo hir byddwn yn llwytho trac sain o hwn – mae’n sôn am fywyd 200 mlynedd yn ôl. Mae blwch sain arall gennym yn ein Rhandir Ysgol.









