Mae Sylvia Schmeichel, garddwr o Chicago a ‘geek’ planhigion yn ôl ei chyffes ei hun, yn sicr yn troi dalen newydd yn ystod ei lleoliad o dair wythnos yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae hi’n 26 oed ac ar ymweliad gyfnewid o 10 mis i’r DU, wedi’i  drefnu gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Chlwb Garddio America, ac yn treulio rhan gyntaf ei haseiniad yng Nghymru yn dilyn ei diddordeb arbennig o reolaeth gardd gynaliadwy.

Dywedodd Sylvia: “Mae’n debyg y byddai’n rhaid i mi ddweud fy mod yn caru bywyd gwyllt a fy mod yn ‘geek planhigion’ tipyn o bopeth; yn heliwr creigiau; chwilotwr madarch ac ymlidiwr chwilod. Garddwriaeth gyhoeddus yw fy ngalwedigaeth a’m hangerdd yw cysylltu pobl â phlanhigion.”

Cafodd yr arddwraig ei geni yn Knoxville Tennessee a phan fydd hi yn y Taleithiau mae hi’n gweithio yn Lurie Garden yn y Millennium Park, Chicago. Yma yng Nghymru nid oedd hi’n gwybod beth yn union i’w ddisgwyl: “Rwyf wedi treulio amser yn y polydwneli, yn canolbwyntio ar luosogi a rheoli plâu ac afiechydon. Rwyf hefyd wedi helpu gyda thocio yn y Tŷ Gwydr Mawr. Tybiais y byddai’n rhaid i mi wneud tipyn o bopeth – a nawr dyma fi’n stwffio gwlân defaid i mewn i gerflun o darw.”

Digwyddodd y dasg hon pan sylwodd Sylvia fod angen tipyn o faldod ar gerflun Gardd poblogaidd Sally Matthews, sef ‘Tarw’, y tarw du Cymreig. Mae tywydd gorllewin Cymru yn chwarae’r diawl â’i du fewn o wlân Cymreig ac mae angen ychwanegu ato ar brydiau.

“Dyw e ddim beth fyddech chi’n ei ddisgwyl ond y fargen yw fy mod yn cael cadw peth o’r gwân gyda’r bwriad o’i nyddu’n swfenîr o’m hamser yma yng Nghymru.”

Mae Sylvia’n treulio tair wythnos yn yr Ardd cyn troi am Kew lle bydd hi’n treulio’r mis nesaf. Bydd hi’n dychwelyd i America yn y flwyddyn newydd.

“Rwyf wir yn hoffi bod yma yn yr Ardd Fotaneg, “ dywedodd. “Mae ganddi lawer o elfennau amrywiol ac mae’n wahanol iawn i erddi botaneg eraill. Y gwahaniaeth mawr yw ei bod yn newydd ac mae hynny’n gyffrous am ei fod yn golygu y gallwch mewn gwirionedd ei gwylio’n tyfu a datblygu.”

Mae Sylvia’n arbennig o hoff o’r casgliad o blanhigion Môr y Canoldir yn y Tŷ Gwydr Mawr lle y dywed hi fod y gwaith yn golygu pincio yn gymaint â thocio i wneud yn siŵr fod y planhigion bob amser yn edrych eu gorau ar gyfer yr ymwelwyr. Ond mae hefyd wedi’i swyno gan leoliad yr Ardd yn sir Gaerfyrddin: “Mae’r bryniau tonnog yn fy atgoffa rywfaint o’r lle y cefais fy magu yn Knoxville, Tennessee, ar odre’r Great Smoky Mountains. Maent yn cael yr enw hwn am eu bod mewn clogwyn o niwl bron yn ddi-baid – ac rydych yn cael llawer o dywydd fan hyn hefyd!”

Cyn dychwelyd i’r Taleithiau, mae Sylvia’n cynllunio i gyfarfod â’i mam Marilyn a’i sboner  Kerry i dreulio’r Nadolig yn yr Almaen, lle mae ganddi berthnasau.

Mae ganddi neges i ddarpar ymwelwyr â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol o’r Taleithiau yn ogystal ag o’r DU: “Efallai ei bod ychydig yn anodd cyrraedd yma, ond bois bach, mae’n werth y drafferth.”