Ynni Gwynt
Mae Cymru byth a hefyd yn gyffro gydag ynni rhydd – mae’n wlad wyntog.
Rydym yn defnyddio twrbein gwynt bach i bweru’r goleuadau o gwmpas Canolfan Ddarganfod Dŵr Cymru, sef un Marlec Rutland 913.
Allech chi ddefnyddio hwn yn eich tŷ chi?
Ar ddiwrnod gwyntog mae’n cynhyrchu hyd at 72 wat o bŵer.
Beth sy’n digwydd os nad yw hi’n wyntog?
Mae pŵer yn cael ei storio mewn batri 12 folt.
Oes diddordeb gennych mewn cael twrbein gwynt graddfa fach i’ch helpu i bweru eich cartref, ysgol , coleg neu fusnes?
Os felly, dylai deiliaid tai edrych ar ’How to Install a Microwind Turbine‘ a dylai busnesau weld this short piece of advice from the Carbon Trust.
Cyflenwyr
Mae nifer fawr o gwmnïau sy’n cyflenwi tyrbeini gwynt graddfa fach. Nid ydym mewn sefyllfa eto i argymell unrhyw rai yn arbennig.
Beth am dyrbeini gwynt graddfa fawr?
Mae’r rhain yn ddadleuol iawn a chredwn fod yr Ardd yn lleoliad da i ddod i ddadlau am eu pwyntiau da a drwg. Rhowch wybod i ni os hoffech naill ai drefnu dadl neu fynychu un yma drwy adael sylwadau isod.







