Cysylltiad Dr.Who
Ffilmiwyd Waters of Mars, un o ymddangosiadau olaf David Tennant ar raglen deledu Dr Who y BBC, yn ein T? Gwydr Enfawr, ac fe’i gwyliwyd gan 10 miliwn o bobl.
Ar ddwy noson oer yn Chwefror 2009, roedd adran offer llwyfan y BBC wedi trawsffurfio’r T? Gwydr yn Fiosffer, lle’r oedd bodau byw rhyfedd wedi heintio gwladfa gyntaf y blaned Mawrth gan achosi eu cyrff i ryddhau ffrydiau o dd?r.
Gwyliwch y clip fideo byr hwn i weld y trawsffurfiad Dr Who – Waters of Mars.
Cafodd ymwelwyr i’r Ardd yn Nhachwedd 2009, cyn dyddiad y darllediad, y cyfle i weld y Tardis yn y T? Gwydr, pan gafodd seibiant o deithio trwy amser.
Roedd y Tardis yma ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oedd Laurence Llewellyn-Bowen wedi galw heibio, ond stori arall yw honno….







