Mae gan yr Ardd amrywiaeth syfrdanol o fywyd planhigion ac anifeiliaid gwyllt – rhai ohonynt yn gyfarwydd a rhai yn brin iawn.

Ar draws ein brithwaith o lynnoedd, nentydd, cors, coetir lled-naturiol, dolydd a gerddi ffurfiol, rydyn ni’n rhoi cartref i dros 1000 o rywogaethau. Mae’r rhai yn cynnwys

  • dros 100 math o bili-palaod a gwyfynod
  • cannoedd o rywogaethau o blanhigion brodorol
  • dros 56 rhywogaeth o adar
  • miloedd o frogaod, llyffantod a madfallod palmad
  • madfallod cyffredin, nadroedd y gwair a slorymod
  • ugain rhywogaeth o famaliaid.

Rydyn ni hefyd yn ymfalchïo mewn dros 180 math o gennau, llawer o fathau prin o ffwngi a 92 rhywogaeth o fwsogl. Rydyn ni hyd yn oed yn gwybod hefyd am 26 math o falwoden.

Default Gallery Type Template

This is the default gallery type template, located in:
/home/linweb29/g/gardenofwales.org.uk-1073330829/user/htdocs/wp-content/plugins/nextgen-gallery/products/photocrati_nextgen/modules/nextgen_gallery_display/templates/index.php.

If you're seeing this, it's because the gallery type you selected has not provided a template of it's own.

Felly pam mae yna gymaint o fioamrywiaeth?
Mae’r tir yma’n dir ffrwythlon. Mae clog-glai, a ollyngwyd wrth i rewlifoedd gilio tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi cyfuno gyda’r priddoedd tywodlyd a siltiog a ddeilliodd o greigwely’r Hen Dywodfaen Coch islaw.

Mae’r hinsawdd yn fwy gwlyb a chynnes na llawer o Brydain, a chedwir yr aer yn lân gan brif wyntoedd yr Iwerydd.

Default Gallery Type Template

This is the default gallery type template, located in:
/home/linweb29/g/gardenofwales.org.uk-1073330829/user/htdocs/wp-content/plugins/nextgen-gallery/products/photocrati_nextgen/modules/nextgen_gallery_display/templates/index.php.

If you're seeing this, it's because the gallery type you selected has not provided a template of it's own.

Ond efallai mai’r prif reswm yw bod rhannau mawr o’n ffermdir wedi dianc y math o reolaeth or-ddwys a yrrodd planhigion brodorol o lawer o gefn gwlad Prydain yn ystod yr 20fed ganrif. Rhoddwyd cartref diogel i blanhigion a ffwngi prin, fel y tegeirian llydanwyrdd mawr, carwe troellog a ffwng capiau cwyr, ynghyd ag amrywiaeth sylweddol o anifeiliaid di-asgwrn cefn fel criciaid chwilod, pili-palaod a gwyfynod ar ein dolydd. Gadawyd i’r mochyn daear chwilio’r glaswelltir mwsoglyd am eu prif ddiet o bryf genwair, a’r dyfrgi i hela ar y dolydd gwlyb am amffibiaid y Gwanwyn. Mae natur twmpathog rhai o’n glaswelltiroedd yn annog llygod y gwair, sydd yn eu tro yn bwydo tylluanod gwyn, ac adar ysglyfaethus eraill, fel y stori lwyddiant ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru, y barcut coch.

Mae ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las hefyd wedi cadw pocedi o goetiroedd lled-naturiol amrywiol. Mae coetir ffen gwern corsiog ger y Porthdy yn cyferbynnu gyda choed derw ac oestrwydd mwy sych Pont Felin Gât yn yr ochr ogleddol, ble mae clychau’r gog, anemoni a thormeini euraidd yn garped ar y llawr yn y Gwanwyn. Mae’r rhain, a choedlannau cyll bach, yn gyfoeth o adar, rhedyn, mwsoglau, cennau a ffwngi. Maen nhw hefyd yn gartref i’r pathew, un o famaliaid Prydain sydd yn y mwyaf o berygl.

Mae’r Ardd yn aelod gweithredol o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin ac oherwydd ein ffwngi hyfryd sy’n byw yn y glaswelltir, rydyn ni’n helpu i redeg Grŵp Ffwngi Sir Gaerfyrddin. I wybod sut mae’r gwaith a wnawn yma yn gysylltiedig â mentrau cadwraeth lleol a chenedlaethol, cliciwch yma.

I weld rhestr o’r rhywogaethau a gofnodwyd yn yr Ardd, cliciwch ar NBGW – RHESTR LAWN O RYWOGAETHAU EBRILL08.