Diwrnod Ffwng Cymru
Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn eich croesawu i Ddiwrnod Ffwng cyntaf Cymru ar Ddydd Sul, Hydref 14eg, 2012
11.00yb – 12.00yp Cwrdd â’r Capiau Cŵyr. Taith gerdded i’r ddôl gyforiog o gapiau cŵyr sy’n bwysig yn rhyngwladol ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Cyfarfod â Bruce Langridge ym mynediad gorllewinol y Tŷ Gwydr Mawr. 12.30 – 1.15yp Ffyngau sy’n Pydru Coed – tro byr i edrych ar sut y mae ffwng yn pydru coed. Cyfarfod â Tudor Davies ym mynediad gorllewinol y Tŷ Gwydr Mawr. 1.00 – 2.00yp & 2.45 – 3.30yp Arddangosfa o Lyfrau ar Ffwng. Lleoliad: Theatr Botanica 2.00 – 2.45yp Bydd yr Athro Lynne Boddy yn rhoi Darlith Agoriadol Diwrnod Ffwng Cymru ar ‘Yr Hyn Nad Ydyn Ni’n Gwybod am Ffyngau’. Lleoliad: Theatr Botanica 3.30 – 4.30yp Prancio yng Nghylchoedd y Tylwyth Teg – taith gerdded i ardaloedd ffyngaidd yr Ardd gan ddatgelu dirgelion chwedlonol a gwyddonol cylchoedd y tylwyth teg. Cwrdd â Bruce Langridge a Tudor Davies ym mynediad gorllewinol y Tŷ Gwydr Mawr. 11.30yb – 3.00yp Bwydlen Ryfeddol y Madarch . Lleoliad: Bwyty’r Tymhorau 12.00 – 2.00yp Coginio byw a blasu gyda Madarch Maesyffin. Lleoliad: Llwyfan y Tŷ Gwydr Mawr 11.00yb – 4.00yp Gweithgareddau teuluol yng nghwmni Cymdeithas Mycolegol Prydain gan gynnwys meicrosgopau a balwnau. Lleoliad: Tŷ Gwydr Mawr. 11.00yb – 4.00yp Dangos Gwaith Turnio gyda Ffyngau gyda Les Bryan. Lleoliad: Tŷ Gwydr Mawr Drwy’r Dydd O Deyrnas Arall, y brif arddangosfa gyntaf yn y DG ar ffyngau sydd ar daith o Ardd Fotaneg Frenhinol Caeredin. Lleoliad: Tŷ Gwydr Mawr 10.00yb – 5.00yp Cyrch Cofnodi Ffwng o amgylch yr Ardd a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las gyfagos. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Bruce Langridge (manylion isod).Yn gysylltiedig â Diwrnod Ffwng Cymru, fe fydd chwilio cenedlaethol am gylch dylwyth teg mwyaf Cymru. Gofynnir i gyhoedd Cymru, gan gynnwys aelodau o Gymdeithas Mycolegol Prydain , ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a rheolwyr parc, i edrych am, a mesur, tynnu llun ac efallai adnabod y cylch dylwyth teg fwyaf yn eu hardal, yn ystod yr wythnosau’n arwain at Ddiwrnod Ffwng Cymru. Gellir edrych ar gofnod byw o’r darganfyddiadau hyn ar wefan yr Ardd a thudalen arbennig Diwrnod Ffwng Cymru ar’Facebook’.
An fwy o wybodaeth, cysyllter â Bruce Langridge ar bruce.langridge@gardenofwales.org.uk,,neu ffoniwch Bruce ar 01558 Mae mynediad i’r Ardd ar Hydref 14eg yn rhad ac am ddim i aelodau Cymdeithas Mycolegol Prydain a all ddangos prawf o’u haelodaeth.






