Y Clasuron Cynhyrfus

Y Clasuron Cynhyrfus

Os mai’r clasuron poblogaidd sy’n mynd â’ch bryd, gwnewch yn siwr nad y’ch chi’n colli Cyngerdd Gŵyl Ifan yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Bydd y gerddorfa 40-darn Symphonica Tywi yn perfformio ffefrynnau a darnau adnabyddus o’r byd clasurol yn safle syfrdanol y Tŷ Gwydr Mawr, o 7.30yh tan iddi nosi ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 22. [...]

No Comments
Alfred Russel Wallace – yr Indiana Jones cyntaf

Alfred Russel Wallace – yr Indiana Jones cyntaf

Hoff wyddonydd y comedïwr enwog Bill Bailey, ac ysbrydoliaeth cariad David Attenborough at natur, ond mae Alfred Russel Wallace yn gymharol anadnabyddus. Mae cwmni theatr Theatr na nÓg, sydd â’i bencadlys yng Nghastell Nedd, wedi gwneud ei orau i fwrw goleuni ar fywyd a gwaith un o ddeallusion mwyaf rhyfeddol y 19fed ganrif, ac maen [...]

No Comments

Cwrdd â Mîr-gath

Mae’r mîr-gathod yn ôl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod y mis hwn Mae’r sioe anifeiliaid ecsotig a hwyliog hwn – gan Tropical Inc. – yn dychwelyd i’r atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Mehefin 22-23, ac yn cynnwys corynnod cawraidd, nadredd anferth, ballasg, drewgi a mîrgathod. Mae tocynnau [...]

2 Comments
Her Myrddin y Mynydd Du

Her Myrddin y Mynydd Du

Mae beicwyr ar draws y DG yn ymgyfrwyo ar gyfer heidio i Sir Gâr ar gyfer y chweched Reid Myrddin flynyddol. Mae’r gamp hon, sydd wedi’i hen ymsefydlu erbyn hyn, yn dechrau a diweddu yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru  ar Ddydd Sul, Mehefin 30, ac mae ganddi bedwar o bellteroedd; Myrddin, 105 milltir; Emlyn, 85 [...]

No Comments
Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du

Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du

Mae Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du yn ôl yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul Gorffennaf 6 a 7 am ddau ddiwrnod o arddangosiadau hedfan ysblennydd. Bydd hebogau Harris, boncathod a thylluan fawr yn esgyn i’r awyr fel rhan o ddwy sioe dyddiol, un am 12 y prynhawn a’r [...]

No Comments
Hwrê i’r Wenynen Gyfeillgar

Hwrê i’r Wenynen Gyfeillgar

A y’ch chi erioed wedi clywed am Bertie druan – y wenynen gyfeillgar sydd bob amser yn gweithio’n galetach na’i gyfoedion mewn cwch gwenyn prysur?   Byddai’n well gan Bertie dreulio ei ddiwrnodau’n peillio blodau gwyllt na pheillio hen afalau diflas. Bertie’r Wenynen yw un o’r prif gymeriadau yn y sioe boblogaidd ‘Ry’n ni angen Gwenyn’ [...]

No Comments

Clodfori Gwirfoddolwyr

Gall wirfoddolwyr ddod â ffrind am ddim i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol i ddathlu wythnos arbennig. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr (Mehefin 1-9), mae pob un o wirfoddolwyr yr Ardd yn cael eu hannog i arddangos y gwaith da maen nhw’n ei wneud i’w ffrindiau a’u teuluoedd, ac i fanteisio ar y cyfleuster arbennig ‘Un yn [...]

No Comments

Teyrnged i Nigel Curry yn y Tŷ Gwydr Mawr

Coffheir un o’r unigolion allweddol y tu ôl i un o adeliadau mwyaf eiconig Cymru yn Sir Gaerfyrddin y Dydd Sadwrn hwn ar Fehefin 1af Dathlir bywyd Nigel Curry, y pensaer prosiect hynod ddawnus a gynlluniodd y Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, trwy ddadorchuddio mainc marmor er cof amdano. Mae’r fainc [...]

No Comments