Diwrnod arbennig o ganu gwerin

Diwrnod arbennig o ganu gwerin

Bydd enwau mawr canu gwerin Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Fehefin 2ail. Mae’r diwrnod traddodiadol o gerddoriaeth a dawns Cymreig-Llydewig yn cynnwys perfformiadau gan Ceri Rhys Matthews a Julie Murphy o’r grŵp, Fernhill, a Peni Ediker a Stef Balesi o’r Mordekkers.   Mae sêr eraill o fyd canu gwerin hefyd yn ymddangos ar [...]

No Comments
Her Chelsea

Her Chelsea

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ymddangos am y tro cyntaf yn sioe flodau gorau’r byd yn 2013. Bydd Sioe Flodau Chelsea y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (Mai 21-25), sy’n dathlu ei phenblwydd yn gant oed eleni, yn cynnwys Gardd Crefftwr sy’n dwyn y teitl  ‘Brysiwch Wella’ sy’n canolbwyntio ar blanhigion meddyginiaethol. Cynlluniwyd yr ardd hon [...]

No Comments
Diddordebau Difyr yn yr Ardd

Diddordebau Difyr yn yr Ardd

Bydd hobïau a chrefftwaith o bob math yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Fai 25-27.   Bydd yno rywbeth i bob aelod o’r teulu – gydag arddangosiadau o dai doliau gan Gymdeithas Tai Doliau Gorllewin Morgannwg, gemwaith hyfryd ac arddangosiadau gan Maggie C Jones, cymdeithas ffotograffyddiaeth Dinefwr, Cymdeithas Brydeinig y Cerfwyr Pren, clytwaith, cwiltio, gwneud les, [...]

No Comments
Meddyginiaethau ym Mai 2013 - Gŵyl Blanhigion ac Iechyd

Meddyginiaethau ym Mai 2013 – Gŵyl Blanhigion ac Iechyd

Mae planhigion wedi cael eu defnyddio am filoedd o flynyddoedd i drin salwch. Ond pa mor ddefnyddiol ydyn nhw yn y 21ain ganrif? Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn eich helpu chi i benderfynu. I’ch helpu chi i wneud hyn, ryn ni’n cynnal cyfres o sgyrsiau, cyrsiau, arddangosfeydd a gweithgareddau hwyl a sbri trwy gydol [...]

3 Comments
Breuddwyd Nos Gŵyl Ifan . . .

Breuddwyd Nos Gŵyl Ifan . . .

Mae cwmni theatr penigamp ‘Taking Flight’ nôl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mai 19 am 2.00yp. Byddan nhw’n cyflwyno ‘A Midsummer Night’s Dream’ – comedi hyfryd Shakespeare – fydd yn serennu Cara ReadLe o’r rhaglen teledu, Tracy Beaker. Meddai Elise Davison o ‘Taking Flight’:  “Gan ddefnyddio’r Ardd fel ein hysbrydolaeth, byddwn yn [...]

No Comments
Ar y ffordd i Ddiwrnod y Tadau hwyliog

Ar y ffordd i Ddiwrnod y Tadau hwyliog

Mae hwyl a sbri cyffrous F1 i’w cael ar Ddiwrnod y Tadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae tadau yn cael mynediad AM DDIM ar Ddydd Sul, Mehefin 16eg, i ddathlu eu diwrnod arbennig, a chael cyfle i wneud eu car rasio F1 ei hunain, a’i rasio ar drac arbennig  y’i gosodir yn y Tŷ [...]

No Comments
Tocyn nôl i’r Ardd

Tocyn nôl i’r Ardd

Mae ‘tocyn dychwelyd’ arbennig sy’n caniatau mynediad yn rhad ac am ddim am wythnos ar gael eto yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – ac eleni bydd e ar gael drwy’r haf. Bydd unrhyw berson sy’n prynu tocyn i’r Ardd rhwng nawr (Mawrth 22) a diwedd mis Medi yn cael dychwelyd Yn Rhad Ac Am Ddim [...]

No Comments
Cogyddion enwog yn yr Ŵyl Fwyd

Cogyddion enwog yn yr Ŵyl Fwyd

Mae’r enwau enwocaf ym myd coginio yng Nghymru i’w gweld yng Ngŵyl Fwyd Gorllewin Cymru ar Fai 11-12. Cynhelir yr Ŵyl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac mae’n cynnwys cig eidion, cig oen, a phorc gorau Cymru, Bryn Williams, chwisgi Penderyn, Stephen Terry, pice ar y ma’n, Dudley Newbery, y caws mwyaf blasus, Hybu Cig [...]

2 Comments
Cinio Dathlu Blasus yr Ŵyl

Cinio Dathlu Blasus yr Ŵyl

Hoffech chi i’ch cinio gael ei gynllunio, ei baratoi a’i goginio gan gogyddion enwog bwytai Cymru? Dyma’n union sydd ar gael yng Ngŵyl Fwyd Gorllewin Cymru eleni. Bydd nifer o gogyddion enwog iawn yn paratoi cinio gŵyl tri chwrs arbennig ar Ddydd Sul y digwyddiad, sy’n cael ei chynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar [...]

No Comments