Arddangosfa Ffwng
O Deyrnas Arall (From Another Kingdom) yw arddangosfa fawr gyntaf y DU i ganolbwyntio ar fyd rhyfeddol ffwng– ac mae’n cael ei harddangos yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru o 19eg Mawrth 2011 tan 28ain Chwefror 2014.
Mae’r arddangosfa ryngweithiol hon yn datgelu manylion agos ffyngau mewn modd nad ydynt erioed wedi’u dangos o’r blaen, gan herio camsyniadau a dangos sut maent yn hanfodol ar gyfer goroesiad bywyd ar y ddaear.
Mae’r arddangosfa deithiol, o’r Royal Botanic Garden yng Nghaeredin,yn cael ei harddangos yn ardal arddangos y Tŷ Gwydr Mawr sydd wedi cael ei drawsffurfio yn labyrinth o wagleoedd thematig lle mae ymwelwyr yn dod wyneb yn wyneb ag amrywiaeth ffwngaidd, mythau a hudoliaeth a’r rôl mae ffyngau yn ei chwarae mewn eco-systemau ac ail-gylchu.
Mae uchafbwyntiau yn cynnwys fforest o gaws llyffant anferth, madarch sy’n sgleinio yn y tywyllwch a fersiwn o roulette Rwsiaidd yn ymwneud â ffwng gwenwynllyd marwol.
Eisiau gwybod mwy?
Beth sy’n pydru’r Ardd? – pa ffwng welwch chi sy’n tyfu’n wyllt yn yr Ardd?
Dysgu a Gweithgareddau’r Teulu
Llyfrgell – mae gennym gasgliad o lyfrau arbenigol ar ffwng a chen
Digwyddiadau – edrychwch pa deithiau a sgyrsiau fydd gennym i’ch helpu i ddysgu mwy am ffwng








