Dylanwadau Diwylliannol
Parth 2 – Dylanwadau Diwylliannol
Mae’r adran hon o’r arddangosfa yn delio â’r amrywiaeth o ddylanwadau mae ffwng wedi’i gael ar fywyd diwylliannol. Mae hyn yn cynnwys delweddau, ffilm, a gwrthrychau perthynol i hanes defnyddiau siamanig hyd at ddefnydd adloniadol mwy diweddar. Hefyd trafodir y dylanwadau ar gerddoriaeth, celfyddyd a llenyddiaeth, gan dynnu sylw penodol at Alice in Wonderland.
Wrth i ymwelwyr adael y gofod, fe’u hysbysir o gyfreithiau’r DU ynglŷn â meddiant a’r defnydd o fadarch hud.
Gyda’r welydd ar ongl ryfedd ac effeithiau golau cyfnewidiol, pwrpas y profiad yn y gofod hwn yw rhoi ymdeimlad o aflonyddwch gofodol i’r ymwelydd. Tynnir sylw at hyn hefyd wrth gyfeirio at faintioli Alice yn newid, wrth i ymwelwyr edrych i fyny i’r nenfwd a’i gweld hi’n syllu i lawr arnynt trwy dwll cwningen anferth.






