Llyfrgell Ffwng
Diolch i gefnogaeth cyfranwyr a gwaith tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, rydym yn creu llyfrgell arbenigol ac archif â digon o ddogfennau i gefnogi gweledigaeth yr Ardd o safbwynt cadwraeth, addysg ac ysbrydoliaeth.
Rhan o hyn yw casgliad arbenigol o lyfrau mycoleg. Mae hyn yn bennaf yn cynnwys
- Casgliad Stanley J Hughes – dros 10,000 o lyfrau ac adbrintiadau wedi’u cyfrannu o gasgliad personol y mycolegydd tacsonomig byd-enwog. Rydym wedi dechrau digideiddio gweithiau allweddol ar gyfer y casgliad hwn ar gyfer llyfrgell electronig mycoleg Cyberliber.
- Mae llyfrgell y British Lichen Society yn cynnwys dros 300 o lyfrau ac 8,500 o adbrintiadau gan ei lyfrgellydd anrhydeddus, Ray Woods.
Os hoffech ddefnyddio’r llyfrgell neu’r archif, a wnewch chi gysylltu â ni ar library@gardenofwales.org.uk ymlaen llaw - ar hyn o bryd rydym ar agor 2 neu 3 diwrnod yr wythnos.






