Mae mwclis hardd o lynnoedd a ffrydiau yn creu trawsnewidiad ysgafn o rannau ffurfiol ystâd yr Ardd Fotaneg, ac mae’n darparu cynefin pwysig ar gyfer bywyd gwyllt dyfrol. Crëwyd yr arweddion d?r hyn gan William Paxton, y perchennog tir a weddnewidiodd Ystâd Middleton gwreiddiol yr 17eg ganrif i mewn i barc d?r Georgaidd. Ffurfiwyd ei system ddyfeisgar o lynnoedd, ffrydiau, pyllau a rhaeadrau gan ddefnyddio argloddiau, pontydd a llifddorau. Ychwanegodd y rhain harddwch at y parc ond fe’u cynlluniwyd hefyd i ddarparu cyflenwad d?r campus ar gyfer ei Neuadd Middleton newydd. Wedi i’r plasty losgi i lawr yn 1931, draeniwyd y llynnoedd ac, yn raddol, gwelwyd hwy’n troi yn ddryslwyni mwdlyd, wedi eu tagu gymaint gan goed fel ei fod yn anodd credu eu bod unwaith wedi dal d?r glân. Nawr, un ar y tro, mae’r saith llyn yma’n cael eu hadfer – yn gyntaf Pwll yr Ardd, yna’r bont a’r gored sy’n cynnal y Llyn Uchaf a’r Llyn Canol.

Mae llwybr hyfryd yn eich tywys heibio’r llynnoedd eraill sydd wedi’u hadfer, pob un ohonynt yn fyw gyda bywyd gwyllt lliwgar a phrysur. Mae’r nythod sy’n arnofio a adeiladwyd gan gotieir yn hynod o boblogaidd. Mae’r pridd llaith o amgylch ymyl y d?r yn ddelfrydol ar gyfer planhigion lluosflwydd megis aconit y gaeaf, hylithr, briallu’r gerddi, gellysg, astilbeau, gwneras a’r bresych drewllyd, tra bod lilïau’r d?r yn blodeuo ar wyneb y d?r.     

Mae Pwll yr Ardd, sydd agosaf i’r Porthdy ac sy’n cynnal Canolfan Ddarganfod D?r Cymru, oddeutu un metr a hanner o ddyfnder. Dyma lyn mwyaf bach a bas yr ystâd. Mae’n debygol y defnyddiwyd y llyn hwn ar gyfer casglu ia ar gyfer y T? Ia.