36. T? Principality (nid yw ar agor i’r cyhoedd)
Mae gan D? Principality dair ystafell gynadledda ragorol sy’n amrywio o ystafell fwrdd ar gyfer wyth person, i ystafell ar ffurf theatr ar gyfer wythdeg person. Mae gan bob ystafell olygfeydd anhygoel, taflunydd a sgriniau ac offer amlgyfrwng. Yn ogystal â hyn, mae ystafell TG o’r radd flaenaf yn cynnwys 10 cyfrifiadur ac mae gan bob un ohonynt fynediad i’r rhyngrwyd.
Dyma leoliad gwych ar gyfer:
- Cynadleddau
- Cyfarfodydd Bwrdd
- Diwrnodau Hyfforddi
- Seminarau
- Lansio Cynhyrchion
- Cyflwyniadau
- Arddangosiadau
- Arddangosfeydd
- Hyfforddiant TG
Os ydych am logi ystafell yn Nh? Principality, cysylltwch â Chris Moore ar 01558 667114 neu e-bostiwch cmoore@gardenofwales.org.uk
Yr adeilad trawiadol hwn yw’r unig ran o blasty William Paxton sydd wedi goroesi hyd heddiw. Hwn oedd llety’r gweision, y bragdy, y golchdy a’r ceginau.
Wedi goroesi tân 1931, a ddinistriodd y prif blasty, daeth y llety gweision hwn i fod yn ffermdy o’r enw Trawscoed. Heddiw mae ganddo rôl newydd fel Canolfan Gynadledda, lle mae cwmnïau, asiantaethau’r llywodraeth, elusennau a sefydliadau eraill yn defnyddio’r ystafelloedd i redeg cyrsiau, seminarau a chynadleddau.








