Wrth gerdded i fyny rhan isaf y Rhodfa, efallai y byddwch chi wedi sylwi ar fwa bach o gerrig yn swatio ar y llechwedd i’r chwith. Dyma’r T? Ia, un o’r enghreifftiau gorau a mwyaf hygyrch o’r math hwn o adeilad yng Nghymru. Roedd gweision William Paxton yn ei ddefnyddio fel oergell, gan storio ia yno o’r llynnoedd i gadw llysiau a dynnwyd o’r Ardd Ddeufur yn oer.

 Adeiladwyd y T? Ia cyn 1824, si?r o fod ar ddiwedd y 18fed ganrif. Fe gewch fynediad iddo drwy dramwyfa fwaog o friciau a oedd wedi’i selio’n wreiddiol gan dri drws pren. Ar yr ochr pellaf mae tramwyfa fwaog is yn arwain ar ongl sgwâr i’r siambr ia, sydd wedi suddo’n rhannol i mewn i’r llechwedd ac sydd wedi’i leinio gan friciau. Mae’r siambr ei hun oddeutu 3 metr o ddyfnder a chyfanswm yr uchder mewnol o’r to cromennog ffurf twmffat yw tua 5 metr. Yn llawr bric y siambr mae basn crwn gyda draen cysylltiol a orchuddiwyd yn wreiddiol gan lechfaen. Roedd d?r tawdd si?r o fod wedi llenwi’r basn cyn gorlifo i’r draen. Mae gan y siambr ia a’r dramwyfa gragen allanol o fric, ond yn wahanol i rai tai ia nid oes lle ar gyfer inswleiddio rhwng yr haenau. Pentyrrwyd clai o amgylch y dramwyfa a’r siambr i’w inswleiddio. Y syniad oedd y byddai ia oedd yn cael ei storio yn y siambr dros y gaeaf yn cael ei gymryd allan yn ystod yr haf i’w ddefnyddio yn y plasty i oeri’r pantri.     

Dywed y chwedl fod ystlumod yn ei ddefnyddio, ond nid oedd arolwg diweddar yn haf 2009 wedi darganfod un. Mae’n bosibl bod ystlumod yn gaeafgysgu yno yn ystod y gaeaf neu’n ei ddefnyddio fel cartref dros dro!