43. Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las gerllaw ochr ogleddol a dwyreiniol ardal ffurfiol yr Ardd. Mae’n gorchuddio dros 150 o erwau cefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac mae wedi cael ei rhedeg fel fferm organig yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Mae’n cynnwys ystod eang o gynefinoedd gwerthfawr yn cynnwys rhostir pori, coetir gwlyb ac iseldir gweirglodd, sef blaenoriaethau cadwraeth yn y DU a gweddill Ewrop. Mae hefyd yn dirlun o gyfrinachau cudd – mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las wedi’i lleoli ar Ystad Middleton o ddiwedd y 18fed ganrif, ac adeiladwyd honno ar ben olion ystad o’r 17eg ganrif.
Sut mae dod o hyd iddi?
Mae’r fynedfa trwy brif Borthdy’r Ardd. Tua deng munud o waith cerdded sydd at fan cychwyn y Warchodfa Natur Genedlaethol ar hyd y llynnoedd a adferwyd gennym.
Rydym wedi creu rhwydwaith o lwybrau ar draws y warchodfa gyfan – cliciwch Map Gwarchodfa Natur Waun Las 2010 i gael map. Bydd angen esgidiau cryf arnoch gan y gall fod yn fwdlyd iawn ond ni chaniateir c?n heblaw am rai tywys.
Mae arwyddion dehongli ar hyd y llwybrau sy’n dweud wrthych sut ydym yn ffermio a rheoli’r coetir i hybu bioamrywiaeth. Edrychwch ar rai esiamplau o’r rhain. Ffermio Organig Dolydd Gwair Glaswelltiroedd Gwlyb Capiau Cwyr Coed Parcdir Cloddiau
Mae dyffryn coediog hardd, sef Pont Felin Gât, a leolir ar ffin ogleddol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, wedi ei hagor i ymwelwyr yr ardd am y tro cyntaf yn 2010.
Yng Ngorffennaf 2011, bydd cloddfa archaeolegol yn digwydd ar Waun Las. Am ragor o fanylion ewch i’n Tudalennau Hanes.






