Newyddion
Archive
Popular Tags
Her Chelsea
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ymddangos am y tro cyntaf yn sioe flodau gorau’r byd yn 2013. Bydd Sioe Flodau Chelsea y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (Mai 21-25), sy’n dathlu ei phenblwydd yn gant oed eleni, yn cynnwys Gardd Crefftwr sy’n dwyn y teitl ‘Brysiwch Wella’ sy’n canolbwyntio ar blanhigion meddyginiaethol. Cynlluniwyd yr ardd hon [...]
No Comments
Diddordebau Difyr yn yr Ardd
Bydd hobïau a chrefftwaith o bob math yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Fai 25-27. Bydd yno rywbeth i bob aelod o’r teulu – gydag arddangosiadau o dai doliau gan Gymdeithas Tai Doliau Gorllewin Morgannwg, gemwaith hyfryd ac arddangosiadau gan Maggie C Jones, cymdeithas ffotograffyddiaeth Dinefwr, Cymdeithas Brydeinig y Cerfwyr Pren, clytwaith, cwiltio, gwneud les, [...]
No Comments
Meddyginiaethau ym Mai 2013 – Gŵyl Blanhigion ac Iechyd
Mae planhigion wedi cael eu defnyddio am filoedd o flynyddoedd i drin salwch. Ond pa mor ddefnyddiol ydyn nhw yn y 21ain ganrif? Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn eich helpu chi i benderfynu. I’ch helpu chi i wneud hyn, ryn ni’n cynnal cyfres o sgyrsiau, cyrsiau, arddangosfeydd a gweithgareddau hwyl a sbri trwy gydol [...]
3 Comments
Breuddwyd Nos Gŵyl Ifan . . .
Mae cwmni theatr penigamp ‘Taking Flight’ nôl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mai 19 am 2.00yp. Byddan nhw’n cyflwyno ‘A Midsummer Night’s Dream’ – comedi hyfryd Shakespeare – fydd yn serennu Cara ReadLe o’r rhaglen teledu, Tracy Beaker. Meddai Elise Davison o ‘Taking Flight’: “Gan ddefnyddio’r Ardd fel ein hysbrydolaeth, byddwn yn [...]
No Comments






