Diwrnod yr Haul yn Ddiwrnod Braf

Diwrnod yr Haul yn Ddiwrnod Braf

 

Pam fod yr haul yn chwilboeth? Pryd ddaw e i ben?  Beth yw mannau haul?  Rhai o’r cwestiynau’n unig y bydd Cymdeithas Seryddol Abertawe yn ceisio’u hateb ar ‘Ddiwrnod yr Haul’ – a gynhelir yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Awst 5ed.

 Bydd aelodau’r Gymdeithas Seryddol o Abertawe yn anelu’u telesgopau at ffurfafen yr haf fel y gellir edrych ar yr haul yn ddiogel.   Bydd dau anerchiad – am 11.30yb a 3.00yp yn Theatr Botanica.   Ynghyd â thelesgopau ac anerchiadau, bydd cyfle i chi wrando ar yr haul, a darganfod os yw e’n hapus, yn flin neu’n drist.

Fe fydd ‘na glinig telesgopau hefyd, felly, os y’ch chi eisiau gwybod mwy am seryddiaeth a thelesgopau, neu os oes ganddoch delesgop eich hun ac eisiau gwybod sut i’w ddefnyddio, dewch ag e gyda chi.

Mae’r Ardd ar agor o 10.00yb hyd 6.00yh.

 Am ragor o wybodaeth am newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.

Leave a Reply

*