Dyn gwych a’i beiriant glanhau

Bu gwirfoddolwr yn glanhau yn yr Ardd Fotanegol, diolch i’w ddyfais ei hun. Bu Tal Harries, 59 o Landybie yn Sir Gaerfyrddin yn defnyddio  dyfais o fath Heath Robinson  i glirio y ffos (ril), 300 metr o hyd , sy’n llifo  lawr y  llydwac (broadwalk),

Profodd i fod mor llwyddiannus i glirio’r ril o gen a dail a ddisgynnodd , fel y datblygodd fodel diweddarach. Daeth Tal, (peiriannydd wedi ymddeol), fyny a’r syniad , ar ol cael ei herio gan berthynas. Dywedodd ” Yn sylfaenol troellwr gardd ydyw, a addases i  i gymryd brwshus cyffelyb i’r hyn ffindech chi  ar beiriannau glanhau strydoedd. Gorfues i  ddyfeisio  echel fy hun i osod y brwshus  i’r peiriant. Rwy’n falch iawn o hyn, yn fwy felly, am fy mod i’n gwneud rhwbeth i helpu’r Ardd Fotanegol!. Mae’r model yn Marc 2, peiriant petrol dwystroc sy’n ysgafnach na’r Marc 1 sy’n bedair stroc.” Mae Tal a’i beiriant  yn corddi tipyn o ddiddordeb ymhlith ymwelwyr yr ardd. Dywaid ” Mae’n fwynhad i siarad a’r ymwelwyr, ond mae’n golygu  y cymer fwy o amser i lanhau”.

Dywedodd Clive Edwards Rheolwr Adnoddau’r Ardd ” Mae Tal a’i ddychymyg a’i ddyfeisgarwch yn ryfeddol, ac yn arbed tipyn o amser ac ymdrech” Heb y ddyfais hon, byddai’n rhaid i ni wrth dim o  bobl yn sgwrio  y ril ar eu pengliniau am oriau. Rydym yn ddiolchgar a dyledus iddo”.  Cysylltwch a 01558 667148 am fanylion pellach.

“”"

Leave a Reply

Yr Ardd yn penodi ymddiriedolwyr newydd!

: Mae’n bleser gan Fwrdd ymddiriedolwyr yr Ardd Fotaneg gyhoeddi penodiad chwech o ymddiriedolwyr o’r newydd sef:

  • Sue Balsom
  • John Ellis
  • Rupert Goodman
  • John Gore
  • Sir Roger Jones
  • Baroness Royall


. Hysbysebwyd y swyddi trwy Brydain gyfan, ac fe ddenwyd ymateb sylweddol.  Penodwyd yr ymgeiswyr llwyddiannus  yn dilyn proses frwd a thryloyw. Arweiniwyd hyn gan  Victoria Provis o  Odgers, Ray a Berndston, un o  gwmniau  recriwtio  mwyaf blaengar Ewrop, mewn ymgynghoriad a Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Sir caerfyrddin,  a Chomisiwn y Mileniwm.

Dywaid Alan Hayward, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, fod  aelodau newydd y Bwrdd yn ymuno ar gyfnod cyffrous ym mywyd yr Ardd. Mae 2005 yn addo bod yn  flwyddyn brysur,  wrth adeiladu  ar y llwyddiannau sylweddol gafwyd yn 2004, a ddargludwyd  gan y tim rheoli newydd, staff a thua 200 o wirfoddolwyr. Dywedodd “Adlewyrchir y farn am yr ardd  gan safon aruchel  y bobl a ymddiddorodd mewn dod yn ymddiriedolwyr. Mae pob  ymddiriedolwr newydd yn  cyfrannu  lliaws o arbennigrwydd, ardderchowgrwydd a phrofiad  mewn amrywiaeth o feysydd i gynorthwyo’r ardd i symud ymlaen gyda hyder a chryfder  i gwrdd a chyrchnodau cyffrous a heriol”

.Daw’r apwyntiadau newydd a chyfanrhif yr ymddiriedolawyr i ddeuddeg, i gadarnhau profiad ac arbennigrwydd sylweddol  aelodau cyfredol y Bwrdd. Mae’r sefyllfaoedd yn ddidal, ac yn golygu ymrhwymiad  o ddiwrnod neu ddau y mios

Am wybodaeth bellach

Leave a Reply