Busy Fingers yn codi’r to am y tro cyntaf

Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol fydd y lleoliad ar gyfer perfformiadau cyhoeddus cyntaf Côr Sacsoffon Busy Fingers ddydd Sadwrn Mehefin 16.

Bydd y band hwn sy’n cynnwys 10 sacsoffon yn chwarae cerddoriaeth gan Holst, Lennon-McCartney, Karl Jenkins, George Gershwin, Dug Ellington, Elgar, Stevie Wonder a mwy.

Byddant yn perfformio dau berfformiad 45 munud o hyd am 12 canol dydd ac am 1pm.

Am fwy o wybodaeth amdano a digwyddiadau eraill yr Ardd, rhowch glic ar www.gardenfowales.org.uk neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667130.

 

Leave a Reply

*