Newyddion
Archive
Popular Tags
Amser i rannu
Cofiwch taw mis Medi yw ein mis ar gyfer “Aelodau: dewch â ffrind, AM DDIM’ i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Am fis cyfan, bydd eich cerdyn aelodaeth yn caniatau mynediad i un person yn ychwanegol – pob dydd o fis Medi. Mae hynny’n cynnwys yr Ŵyl Degeirianau benwythnos yma, y diwrnod hwyl i’r teulu ar yr 22ain, yr Helfa Ffwng ar y 29ain ynghyd â digwyddiadau cerddorol eraill o galendr yr Ardd er enghraifft Côr Bancyfelin, Ferry Jazz a’r Côr Sacsoffon Busy Fingers.
Mae’n rhoi cyfle hefyd i ddangos eich ffrindiau o gwmpas Coedwig y Bwganod, O Deyrnas Arall ac hefyd arddangosfa ‘Glimpse’ gan Brendan Stuart Burns yn yr Oriel.
Hefyd, peidiwch ag anghofio: os ydych yn byw yn agos i linell ‘Calon Cymru’ – rhwng Yr Amwythig ac Abertawe – gallwch ddal y Towy Valley Explorer, sy’n rhedeg pob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn ym mis Medi. Am fwy o wybodaeth, gweler www.thebusthatmeetsthetrain.co.uk
Mae’r Ardd ar agor o 10.00yb hyd 6.00yh yn ystod mis Medi. Am ragor o wybodaeth am newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu ffoniwch 01558 667149.







