Swyn Anifeiliaid yn yr Ardd

Swyn Anifeiliaid yn yr Ardd

Dewch i gwrdd â mîr-gath yn Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae Tropical Inc., sy wedi’i lleoli yng Nghaerwrangon, yn dychwelyd i’r Ardd er mwyn dangos eu casgliad anhygoel o greaduriaid, ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher, Awst 28 a 29.

Bydd eu sioeau ‘Swyn Anifeiliaid’ yn digwydd am 11.30yb.

Meddai David Hardy, Pennaeth Marchnata yn yr Ardd: “Dangosodd Steve Rowlands sioe wych eithriadol  pan oedd yma ym mis Awst, felly roedd yn rhaid inni ei wahodd yn ôl  – oherwydd poblogrwydd y sioe a’r galw mawr roedd amdani!”

“Mae Tropical Inc. yn rhannu nifer o’n hamcanion, gan ei bod yn adrodd storïau amgylcheddol ac yn ein rhybuddio am effaith dynolryw ar gynefinoedd ac amgylcheddau sensitif.  Mae e hefyd yn hwyl mawr, gan fod Steve yn caniatau i’w gynulleidfa ddod wyneb yn wyneb ag amrywiaeth eang iawn o greaduriaid – rhai ohonyn nhw na fyddwch wedi clywed amdanynt!”

Meddai Kelly Shambley o Tropical Inc.: “Ein nod ni yw addysgu pobl o bob oedran a phob rhan o gymdeithas.  Ry’n ni hefyd yn cynghori pobl ar sut i ofalu am anifeiliaid anwes ecsotig.”

Ychwanegodd:  “ Drwy annog cywreinrwydd naturiol pobl, a chan defnyddio dirgelion amgylcheddau fel Fforestydd Glaw ac Anialwch, byddwn yn eich tywys ar daith hudol bron.”

Mae tocynnau i’r sioeau yn £2 y person (yn ychwangeol at fynediad i’r Ardd), ac mae llefydd yn brin.   Am docynnau a mwy o fanylion, galwch 01558 667149.

2 Responses to “Swyn Anifeiliaid yn yr Ardd”

  1. Geraint jones says:

    Can I book 4 tickets for the 2pm meerkat show

  2. gonbgw says:

    Hello Geraint
    You can buy your £2 tickets either on the door of the Marquee where the show is being held, or at the Gatehouse when you come in.

Leave a Reply

*