Hud anifeiliaid yn yr Ardd

Hud anifeiliaid yn yr Ardd

Dewch i gwrdd â mir-gath yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd Tropical Inc sydd wedi’i leoli ym Mirmingham yn arddangos ychydig o greaduriaid anhygoel yn ystod  Penwythnos y Bwystfilod Bychain ddydd Sadwrn a dydd Sul (Ebrill 21-22).

Mae sioeau’r Bwystfilod Bychain yn rhan o raglen ‘Mis yn y Canoldir’ yr Ardd sy’n canolbwyntio ar gasgliadau planhigion Canoldirol yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster – sydd ar ei orau yn Ebrill a Mai.

Dywedodd David Hardy, Pennaeth Marchnata’r Ardd: “Mae gennym ni a Tropical Inc nodau tebyg. Mae nhw’n adrodd straeon amgylcheddol ac yn rhybuddio pobl o’u heffaith ar gynefinoedd ac amgylcheddau sensitif iawn. Rydw i wedi gweld eu sioe ac mae’n wych.”

Bydd gan aelodau’r gynulleidfa gyfle unigryw a chyffrous i ddal ac anwesu pob anifail yn y sioe. Dywedodd Kelly Shambley o Tropical Inc: “Rydyn ni’n bwriadu addysgu pobl o bob oed a chefndir. Rydyn ni hefyd yn rhoi cyngor i bobl sy’n gofalu am anifeiliaid anwes egsotig.

 

“Trwy ennyn chwilfrydedd naturiol pobl, bydd cyfrinachau amgylcheddau fel y Goedwig Law a’r Anialwch yn eich tywys ar daith sydd bron yn hudol,” ychwanegodd.

Mae tocynnau ar gyfer y sioe yn £2 y person/plentyn (heb gynnwys mynediad i’r Ardd). Am docynnau neu fanylion pellach, ffoniwch 01558 667149.

 

3 Responses to “Hud anifeiliaid yn yr Ardd”

  1. melanie says:

    What times are the shows please?

  2. DEBBIE EDWARDS says:

    What time is the Mini beast show on please? Thanks.

  3. gonbgw says:

    They are at 11, 12.30 and 2pm

Leave a Reply

*