Newyddion
Archive
Popular Tags
Hud anifeiliaid yn yr Ardd
Dewch i gwrdd â mir-gath yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd Tropical Inc sydd wedi’i leoli ym Mirmingham yn arddangos ychydig o greaduriaid anhygoel yn ystod Penwythnos y Bwystfilod Bychain ddydd Sadwrn a dydd Sul (Ebrill 21-22).
Mae sioeau’r Bwystfilod Bychain yn rhan o raglen ‘Mis yn y Canoldir’ yr Ardd sy’n canolbwyntio ar gasgliadau planhigion Canoldirol yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster – sydd ar ei orau yn Ebrill a Mai.
Dywedodd David Hardy, Pennaeth Marchnata’r Ardd: “Mae gennym ni a Tropical Inc nodau tebyg. Mae nhw’n adrodd straeon amgylcheddol ac yn rhybuddio pobl o’u heffaith ar gynefinoedd ac amgylcheddau sensitif iawn. Rydw i wedi gweld eu sioe ac mae’n wych.”
Bydd gan aelodau’r gynulleidfa gyfle unigryw a chyffrous i ddal ac anwesu pob anifail yn y sioe. Dywedodd Kelly Shambley o Tropical Inc: “Rydyn ni’n bwriadu addysgu pobl o bob oed a chefndir. Rydyn ni hefyd yn rhoi cyngor i bobl sy’n gofalu am anifeiliaid anwes egsotig.
“Trwy ennyn chwilfrydedd naturiol pobl, bydd cyfrinachau amgylcheddau fel y Goedwig Law a’r Anialwch yn eich tywys ar daith sydd bron yn hudol,” ychwanegodd.
Mae tocynnau ar gyfer y sioe yn £2 y person/plentyn (heb gynnwys mynediad i’r Ardd). Am docynnau neu fanylion pellach, ffoniwch 01558 667149.








What times are the shows please?
What time is the Mini beast show on please? Thanks.
They are at 11, 12.30 and 2pm