Teithio yn ôl mewn amser i’r Ardd Fotaneg

Bydd ffair hen bethau yn cael ei chynnal ar Ionawr 14-15 yn y  Tŷ Gwydr Mawr tra bod y mis ‘mynediad AM DDIM’ yn parhau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Trefnir y digwyddiad gan Ffeiriau Derwen ac mae’n addo dau ddiwrnod o stondinau o ansawdd uchel gan gynnwys llestri tsieina, gemwaith a chelfi.

Dywedodd Brita Rogers o Ffeiriau Derwen:  “Bydd y ffair yn cynnwys cydbwysedd o gelfi yn amrywio o gasgliad trawiadol o gelfi derw cynnar, darnau mahogani ac amrywiaeth o binwydd wlad.  Yn ogystal, bydd arddangosfa o glociau cyfnod Ffrengig, ynghyd â chlociau mwy traddodiadol  mewn casau hir”.

Dywedodd Brita y byddai pwyslais mawr ar ansawdd – o tsieinia hynafol i’r 60au retro a ffermdai  gwlad.

Bydd David Jones yn arddangos ei gasgliad helaeth o waith sbwng o ansawdd da, nwyddau Pratt cynnar a phorslen tsieinaidd prin.

“Mae gan David gasgliad helaeth o grochenwaith bach gan gynnwys platiau a mygiau prin i blant sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif.  Dyma stondin ni ddylid ei golli!” Dywedodd Brita.

Bydd cynrychiolaeth gryf o grochenwaith Gymreig – o Abertawe, Morgannwg Llanelli a’r Ewenni yn fwyfwy poblogaidd – a bydd Richard Bebb yn arddangos ei luniau o Gymru, gan gynnwys Kyffin Williams.

Bydd tecstilau Cymru hefyd yn cael eu cynnwys gydag ystod eang o flancedi tapestri Cymreig a blancedi gwlân o Gymru (charthen).

 

Ychwanegodd Brita:  “Mae’r amrywiaeth o stondinau yn helaeth, o arddangosfeydd sy’n cynnwys Deco Clarice Cliff, Moorcroft, Lalique gwydr, i stondinau arddangos lliain Fictoraidd hyfryd, dillad vintage, ffaniau a gemwaith gwisgoedd, yn ogystal ag arddangosfa ddeniadol o ddyluniadau mewnol hiraethus.  Bydd yna hefyd riliau pysgota, gemwaith, oriorau a deunydd milwrol.

Bydd drysau’r ffair yn agor am 10am ac yn cau am 4.30pm; mynediad AM DDIM i’r Ardd a’r ffair.  I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, ewch at www.gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Am fwy o wybodaeth am y ffair, cysylltwch â Brita Rogers ar 01267 2202601, 07790 293367 (rhif symudol) neu ewch at wefan:  www.derwenantiques.co.uk

 

2 Responses to “Teithio yn ôl mewn amser i’r Ardd Fotaneg”

  1. An Onimous says:

    As a family we came all the way to see the fungi exhibition. We parked, walked, queued, got gently through the crowds only to find it all locked up. It would have been better to have had the information prior to the waste of fuel, time etc… Even a notice on the entrance would have helped. I am sure we were not the only ones. Oh and I am not the person who has the email I just used, but I needed it to be able to leave a message (sorry dmoore who ever you are). Anon

  2. gonbgw says:

    We’re sorry about this. We had so many visitors and stallholders in the Great Glasshouse that weekend, that we took the decision to close the exhibition on health and safety grounds.
    However, we’ve taken steps to make sure that this doesn’t happen again. Please accept our apologies.

Leave a Reply

*