Newyddion
Archive
Popular Tags
Brenhines y Gân
Mae brenhines canu gwerin Cymraeg yn perfformio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mawrth 3ydd.
Mae Siân James yn gerddorwraig, yn delynores ac yn eicon. Wedi’i hamgylchynu â cherddoriaeth a chanu ers ei phlentyndod, mae ganddi “lais sydd bron yn ddolurus o bur” (yn ôl y diweddar barchedig John Peel).
Mae ganddi stôr o ganeuon o wyth albwm hyfryd i’w defnyddio, ynghyd â chariad at gerddoriaeth o bob math.
Meddai Siân: “Fy hoffter o gerddoriaeth draddodiadol yw hanfod fy mod. Rwy’n caru pob math o gerddoriaeth, ond caneuon traddodiadol yw craidd fy mywyd ac ni allaf ddianc rhagddynt.”
“Caneuon a cherddoriaeth fy ngwlad yw fy hafan rhag trybestod bywyd.”
Rhannwch yn yr hafan hon am ennyd yn y Tŷ Gwydr Mawr o 1yp ar Fawrth 3ydd – digwyddiad olaf Cyfres Cyngherddau’r Gaeaf y Menywod Celtaidd yn yr Ardd.
Mae tâl mynediad i’r Ardd yn £8.50 (consesiynau’n £7) i oedolion a £4.50 i blant. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac eraill, galwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ewch i www.gardenofwales.org.uk
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10.00yb a 4.30yp (mynediad olaf am 3.30yp).







