Newyddion
Archive
Popular Tags
Cofiannau o’r Caribî
Mae bardd enwog sy’n hanu o Guyana yn gobeithio y bydd ei hunangofiant newydd yn helpu i hyrwyddo gwell ddealltwriaeth o ddiwylliant.
Mae Maggie Harris, 57, a fewnfudodd i Brydain ym 1971 ac sydd yn byw yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn, wedi cyhoeddi ei chofiant sy’n dwyn y teitl Kiskadee Girl.
Bydd Maggie yn lansio ei llyfr yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ddydd Sadwrn (Tach 12) am 12 y prynhawn. Fe fydd yn darllen detholiadau a llofnodi copïau o’r llyfr.
Mae’r llyfr yn archwilio diwylliant y Caribî yn ogystal â’r dylanwad y cafodd perthnasau eraill o gefndiroedd eraill ar ei bywyd cynnar: “Fel oedolyn yn y DU, roedd cael fy magu yn Guyana wedi chwarae rôl swrrealaidd yn fy meddwl i,” meddai Maggie. “Ond ar y llaw arall nid oedd yn arwyddocaol i’m plant a dechreuais feddwl ynglyn â faint o blant mewnfudwyr eraill y mae eu diwylliant teuluol yn angof.
“Roeddwn i’n ysgrifennu fy nghofiannau i’w dod yn fyw i mi a’m plant, yn ogystal â chyflwyno amrywiol safbwyntiau ar Guyana a hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol.”
Mae Maggie, cyn-fyfyriwr aeddfed Prifysgol Caint, yn awr yn diwtor ysgrifennu creadigol ac yn ddarlithydd mewn ysgolion a cholegau. Roedd ei chasgliad o farddoniaeth a gyhoeddwyd ym 1999 o’r enw ‘Limbolands’ wedi ennill Gwobr Llenyddiaeth Guyana’r flwyddyn ganlynol.








