Carolau yn Yr Ardd

Mae digwyddiad poblogaidd  ‘Carolau Nadolig yn yr Ardd’ yn digwydd ddydd Iau Rhagfyr 15 yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd Band Arian Crwbin a Chôr Dyffryn Tywi yn darparu cerddoriaeth gyda dawnsio gan Tipyn o Bopeth.

Bydd gwin twym a brechdanau twrci a llugaeron twym, cawl a mins peis ar werth o Fwyty’r Tymhorau a bydd y siop roddion ar agor ar gyfer pryniadau munud-ddiwethaf.

Bydd y drysau ar agor am 6pm a bydd y canu yn dechrau am 7pm. Pris mynediad yw £3 a bydd pobl o dan 16 oed yn cael mynediad am ddim.

Os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu ewch i www.gardenofwales.org.uk

 

Leave a Reply

*