Newyddion
Archive
Popular Tags
Ffair hen bethau yn yr Ardd
Mae Ffair Henebion Ionawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn tyfu’n fwy ac yn well.
Mae digwyddiad eleni, a drefnwyd gan Ffeiriau’r Dderwen, yn cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Ionawr 12 a 13, yn y Tŷ Gwydr Mawr a Thŷ Principality o’r cyfnod rhaglywiaethol.
Torrodd ffair y llynedd yn yr Ardd bob record gyda mwy na 6,800 o ymwelwyr yn heidio i’r Ardd er mwyn mwynhau’r sioe. Mae’r digwyddiad eleni – ac mae’r tâl mynediad eleni yn £2 yn unig ac yn rhad ac am ddim i rai dan 16 oed – yn cynnwys arddangosfeydd gwych o waith celf cain Gymreig a chrochenwaith, gemwaith o safon, a chelfi derw Cymreig o’r 17eg ganrif.
Meddai trefnydd y ffair, Brita Rogers: “Dyma ychwanegiad cyffrous iawn i bortffolio Ffeiriau’r Dderwen a bydd y Tŷ Gwydr Mawr a gynlluniwyd gan Norman Foster yn lleoliad arbennig ar gyfer ein Ffair Henebion”.
Ychwanegodd: “Bydd y ffair hon yn arddangos nodweddion Cymreig o gasglu gan gynnwys crochenwaith, gwaith celf a chelfi. Bydd Richard Bebb yn dangos ei beintiadau Cymreig, sy’n cynnwys artistiaid fel Kyffin Williams. Bydd brethyn a defnyddiau tebyg yn nodwedd o’r ffair, a bydd amrywiaeth eang o flancedi Cymreig yn cael eu harddangos.”
Bydd dros 50 o stondinau yno yn dangos amrywiaeth o themâu, o’r Tseina hynafol i’r 60au retro a’r ffermdy gwledig.
Hefyd bydd stondinau yn dangos lliain Fictorianaidd godidog, dillad o dras, ffaniau a gemau gwisgo, clociau Ffrengig, ac arddangosfa ddeniadol o gynllunio mewnol hanesyddol. Bydd riliau pysgota, militaria, a chasgliadau o grochenwaith Moorcroft hefyd yno.
Meddai Brita: “Os hoffech fuddsoddi yn y darn arbennig hwnnw o wydr neu eitem dda o emwaith neu ddarn o arian, bydd gormod o ddewis gennych”.
Bydd y drysau ar agor o 10.00yb hyd at 4.30yp ar y ddau ddiwrnod. Mae’r tâl mynediad yn £2 ac mae digon o lefydd parcio ar gael am ddim.
Am ragor o wybodaeth am newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Am wybodaeth am Ffeiriau’r Dderwen, cysylltwch â Brita Rogers ar 01267 220260 neu 07790 293367 neu ewch i’r wefan: www.derwenantiques.co.uk







