Newyddion
Archive
Popular Tags
Dewch allan i chwarae yn yr Ardd
Bydd yn ddiwrnod rhad ac am ddim i’r rheiny sy’n ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi a bydd elfen gerddorol arbennig hefyd.
Bydd mynediad rhad ac am ddim i bawb i anrhydeddu ein nawddsant a fe’ch gwahoddir chi i ddod â’ch ffidil (neu eich tiwba, recorder, bas, picolo a’ch marimba) i gymryd rhan mewn prosiect cerddoriaeth Gymreig.
Ddydd Iau Mawrth 1af, bydd ‘Sesiwn dros Gymru’ a drefnwyd gan Clera, Cymdeithas Offerynnau Cymreig traddodiadol a gyllidir gan Gyngor y Celfyddydau , yn cael ei lansio.
Y nod yw rhoi cyfle i bobl ledled Cymru i fynychu gweithdai cerdd a diwylliant Cymreig a dysgu’r caneuon a’r dawnsiau gwerin hyfryd, gyda help arbenigol oddi wrth rai o gerddorion a pherfformwyr gorau Cymru.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys sesiwn ‘blasu’ rhad ac am ddim am 2pm a fydd ar agor i bawb.
Dywedodd Helen Adam, y trefnydd lleol: “Dewch ag unrhyw offeryn yr ydych yn ei chwarae – yn dda neu’n wael! Bydd croeso cynnes hefyd i gantorion a gwrandawyr.
“Byddwn ni’n dysgu ychydig o alawon o’r glust yng nghwmni cyfeillgar cerddorion proffesiynol yn yr ardal brydferth o gwmpas y Tŷ Gwydr, sydd yn dihuno yn awr ar gyfer y gwanwyn. Bydd perfformiad byr anffurfiol iawn yn dilyn y sesiwn ‘blasu’ am 3.30.”
Bydd y gerddoriaeth yn dechrau am 11.30am pan fydd y deuawd gwerin poblogaidd Fiddlebox yn chwarae.
Bydd y delynores Shelley Fairplay hefyd yn perfformio a bydd y cerfiwr Llwyau Caru Tony Martin a’r turniwr pren Les Bryan yn gwneud rhoddion Dydd Gŵyl Dewi arbennig.
Bydd Heather Henderson, aelod o Grŵp Perlysiau Gorllewin Cymru, yn rhoi sgwrs ar blanhigion o’r enw “Poisons: fact and fiction”.
* Am fwy o wybodaeth am y prosiect ‘Sesiwn dros Gymru’, rhowch glic ar www.clera.org.uk a dilynwch y dolenni i Sesiwn dros Gymru. Ewch at www.sesiwn.org.uk <http://www.sesiwn.org.uk> i ddysgu mwy am y digwyddiadau a gynhelir ar Fawrth 1, neu cysylltwch â’ch trefnydd lleol Helen Adam trwy e-bostio helenadamfiddle@gmail.com <mailto:helenadamfiddle@gmail.com









[...] Free entry to NBGW Free entry to the National Botanic Garden of Wales on St Davids Day – March 1st. Come out to play in the Garden | The National Botanic Garden of Wales [...]
[...] from Pembrokeshire to Carmarthenshire where there is free admission on St David’s Day to the National Botanic Garden of Wales. Here you will find a special musical theme running throughout the day in the Great Glasshouse. [...]
diolch yn fawr