Unwaith Eto ‘Nghymru Annwyl

Unwaith Eto ‘Nghymru Annwyl

Mae casgliad prin a gwerthfawr o beintiadau yn dychwelyd am gyfnod byr i’w gartref gwreiddiol yn Ne-Orllewin Cymru.

Mae’n adnabyddus bod Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ar yr hyn a fu yn un o dirweddau Rhaglywiaethol a pharciau dŵr gorau Prydain, ond yr hyn nad yw’n adnabyddus yw bod cofnod o’i harddwch wedi’i greu rhyw 200 mlynedd yn ôl.

Mae’r peintiadau, a gredwyd eu bod wedi’u colli am byth pan ddygwyd nhw yn y 1960au, yn awr yn nwylo disgynyddion Syr William Paxton, y masnachwr Ymerodrol, y gŵr busnes a’r gwleidydd, a sefydlodd ei encilfa gwledig ar yr ystad, a ddatblygwyd wedyn yn ardd fotaneg genedlaethol gyntaf y mileniwm newydd.

Comisiynodd Paxton Thomas Hornor ym 1814 i beintio golygfeydd i goffáu’r parcdir prydferth a greodd.

Mae Hornor bron wedi’i anghofio heddiw, ond yn gynnar yn y 19fed ganrif roedd e’n enwog dros ben, yn un o brif ddyfrlliw-wyr ei gyfnod, a oedd yn adnabyddus fel yr un a ddatblygodd dechneg ar gyfer atgynhyrchu darluniadau o dirffurfiau cywir y golygfeydd a beintiodd.

Mae saith o’r pedwar-ar-ddeg o beintiadau gwreiddiol wedi goroesi, ac maen nhw’n gofnod unigryw o’r weledigaeth a wireddwyd gan Paxton.

Wrth dderbyn y peintiadau, dywedodd Cyfarwyddwraig yr Ardd, Rosie Plummer: “Ry’n ni’n falch dros ben i gael y peintiadau yn ôl yma am y tro cyntaf ers rhyw 200 mlynedd, ac ry’n ni’n gwerthfawrogi’n fawr haelioni’r teulu Paxton am eu benthyca inni ac am roi eu caniatâd inni eu hatgynhyrchu.”

“Maen nhw nid yn unig yn gywrain ac yn addurniadol yn eu hunain, ond byddan nhw hefyd yn sylfaen i un o brosiectau adfer tirwedd mwyaf Cymru.”

“Mae’r golygfeydd a greodd Paxton flynyddoedd maith yn ôl wedi parhau’n ddigyfnewid, ond maen nhw wedi’u cuddio erbyn hyn gan ddau gan mlynedd o dyfiant. Draeniwyd y mwyaf o’r llynnoedd a greodd yn ystod y 1930au, ond gellir ei adfer i’w hen ogoniant, a’i ddefnyddio, fel y’i ddefnyddiwyd gynt, er lles a phleser ymwelwyr i’r ystad.”

“Cynrychiola hyn gam arall ar hyd y ffordd o gyflawni un o amcanion gwreiddiol cefnogwyr cynnar yr Ardd. Bydd peintiadau Hornor yn ein helpu ni i ail-greu’r cyfundrefnau plannu gwreiddiol, a’n helpu ni hyd yn oed i adnabod amrywiaethau a rhywogaethau’r planhigion a blannwyd, ail-osod yr argaeau, rhaeadrau, a’r sgydau trawiadol, a bydd y delweddau, unwaith y tynnir eu lluniau’n broffesiynol, yn cael eu harddangos er mwyn i bawb eu gweld.”

One Response to “Unwaith Eto ‘Nghymru Annwyl”

  1. Margaret Evans says:

    Congratulations – sublime images – hope you can secure enough funds to restore the landscape.