Torri cod yr Ardd

Torri cod yr Ardd

Mae taflen newydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnwys llawer mwy na gwybodaeth bwysig a
lluniau pert. Mae taflen 2012 yr Ardd yn cynnig pris mynediad gostyngol  -
wedi ei guddio yn y cod ar y clawr.

Bydd unrhyw un sydd â ‘smart phone’ a rhaglen darllen codau ymateb cyflym yn gallu datgloi
cynnig mynediad ‘prynu un, cael un hanner pris’ i’r Ardd.

Dywedodd David Hardy, Pennaeth yr Adran Farchnata: “Rydyn ni’n cynhyrchu chwarter miliwn o
daflenni bob blwyddyn ond eleni maen nhw’n fwy gwerthfawr i ddarpar ymwelwyr.
Mae’r dechnoleg yn golygu y gallwn gynnig ddisgownt i gynulleidfa eang ond fe
fydd hefyd yn ein galluogi ni i olrhain faint o daflenni sy’n cael eu defnyddio
ac i gasglu data gwerthfawr i ni am ein hymwelwyr.”

Bydd ymwelwyr sy’n gallu sganio cod y daflen yn gallu derbyn neges ar eu ffôn a fydd yn
esbonio sut gallant hawlio eu disgownt.

Dywedodd Mr Hardy: “Mae’n hynod o syml. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymateb yr ymwelwyr a’u
hadborth ar y syniad.”

Mae taflenni’r Ardd ar gael ledled Cymru, mewn llefydd megis Canolfannau Croeso,
gwasanaethau’r draffordd, gwestai, parciau gwyliau, tafarnau, bwytai a garejys.

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10am-6pm. Os hoffech fwy o wybodaeth, rhowch glic ar  www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667130.

Leave a Reply

*