Newyddion
Archive
Popular Tags
Ffair Grefftau yn Rhodd
A hoffech chi berchen ar ddarn unigryw o drysor a wnaed yng Nghymru? Yna dewch draw i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne ddydd Sadwrn a dydd Sul Awst 4-5 ar gyfer ‘Ffair Grefftau’r Haf’.
Yn y Tŷ Gwydr Mawr, bydd amrywiaeth eang o stondinau yn cynnig amrediad eang o ddeunydd a wnaed â llaw – o drysorau llestri gwydr hardd, cerameg, clociau a drychau pren i fyrddau adar, tedis traddodiadol, dillad plant, gemwaith, sebon, canhwyllau hyfryd a mwy. Byddwch hefyd yn gallu mwynhau ac arogli planhigion Môr y Canoldir a’r Tŷ Gwydr Mawr yng ngogoniant yr haf.
Dywedodd Dawn Crisp, Trefnydd Digwyddiadau, “Mae’n wych i allu croesawu crefftwyr lleol i’r Ardd ac i’w galluogi i ddangos eu cynnyrch yng nghefndir trawiadol y Tŷ Gwydr Mawr”. Ychwanegodd, “Yr haf yw’r amser gorau i ddod i ymweld â’n Gardd brydferth. Mae cymaint i’w fwynhau – teithiau cerdded breuddwydiol ar lan y llynnoedd, Tŷ Trofannol, ein fferyllfa ddiddorol Fictoraidd, cychod gwenyn prysur, gwarchodfa natur a llawer mwy”.
Darperir adloniant cerddorol ar y dydd Sadwrn gan ddeuawd Gwyddelig ‘Henry Marten’s Ghost’ a bydd ‘Y Meadows’ o Landeilo yn darparu cerddoriaeth Geltaidd a chlasurol ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Bydd hefyd sesiwn blasu caws Sir Gaerfyrddin gan Fwydydd Castell Howell yng Nghaffi’r Porthdy ddydd Sadwrn y 4ydd, a bydd yna gyfle i ymweld â Choedwig Bwganod – y celf gosod amgylcheddol mwyaf arwyddocaol erioed i ddod i Gymru.
Mae’r Ffair Grefftau yn cael ei chynnal o 10yb tan 6yp (mynediad olaf am 5yp). Am fwy o wybodaeth am holl ddigwyddiadau gwelwch www.gardenofwales.org.uk, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk







This was our first visit to the National Botanical Gardens of Wales for the Fours Seasons Craft Fair. We had a magical day. the setting of the Great Glasshouse was something rather special for a craft fair. Enjoyed ourselves so much we are planning to come back again soon…..Many thanks.
Glad you enjoyed your day here Gail.
We’ll be continuing to run craft fairs here – keep an eye on our Events page for dates.