Crefftau ar Waith

Crefftau ar Waith

Mae’n amser Crefftau ar Waith yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol benwythnos gŵyl y banc (Mai 5-7) lle y bydd crefftwyr lleol yn cael cyfle i ddangos eu sgiliau a’u cynnyrch.

O waith pren, ffeltio a nyddu; i waith serameg, crosio, gwaith gwydr a gemwaith – mae rhywbeth at ddant pawb.  Hefyd, bydd amrywiaeth o stondinau yn gwerthu sebon, teganau fferm, deunydd ysgrifennu a wnaed gyda llaw – felly rhywbeth i bob aelod o’r teulu.

Dywedodd y trefnydd, Les Bryan: “Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd digwyddiad y llynedd, rydym wedi ceisio casglu amrywiaeth aruthrol o arbenigwyr mewn amryw o grefftau a fydd, gobeithio, yn darparu digon i blesio ymwelwyr i’r Ardd.

“Bydd y crefftwyr yn arddangos eu sgiliau yn ogystal â gwerthu eu nwyddau” ychwanegodd.

Bydd hefyd adloniant hudol i’r teulu gan Jugglestruck ddydd Sadwrn a dydd Sul.  Ar ddydd Llun gŵyl y banc fe fydd y Quack Pack gwych yno a Dawnswyr Gwerin Pen-y-Fai yn dawnsio o amgylch yr Ardd.

Leave a Reply

*