Newyddion
Archive
Popular Tags
DE|CODE gan Emma Tuck
Bydd arddangosfa De|Code yn agor yn Oriel y Cwrt, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Iau, Hydref y 6ed. Mae’n arddangosfa o waith yr artist Emma Tuck. Gwaith ymchwil yr Ardd i roi cod bar unigryw ar yr 1,143 o blanhigion blodeuol Cymru oedd yr ysbrydoliaeth.
Mae’r arddangosfa’n ffocysu ar bedair rhywogaeth prin o blanhigion, sef clychlys ymledol, ysgallen y ddôl, carwe troellog a cherddinen wen. Mae Emma wedi cynhyrchu cyfres o brintiau, gludwaith a llyfrau artist lle mae siapiau blodau, coesynnau, brigau, dail ac aeron wedi cael eu haniaethu a’u hailbaentio, gan ein galluogi ni i weld y planhigion hyn mewn ffyrdd newydd ac anarferol.
[Gallery not found]Fel rhan o’r prosiect Cod Bar Cymru, mae cod yn cael ei ffurfio ar gyfer pob planhigyn sy’n cynnwys y llythrennau A,G,C a T – arwydd gweledol sy’n cael ei ailadrodd ymhob rhan o’r arddangosfa. Dywedodd Emma: “Mae ffurfiau a phatrymau naturiol wedi cyfrannu at luniad fy ngwaith. Mae rhai o’r patrymau hyn yn weledol i’r llygad dynol, mewn coed a dail; mae eraill ynghudd yng nghod genynnol planhigion.”
Ychwanegodd: “Mae’r gwaith hwn wedi ei gynhyrchu yng nghyd-destun cymleth iawn. Ar yr un llaw, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a sefydliadau eraill ledled y byd, yn adnabod, a thrwy hynny yn sicrhau cadwraeth rhywogaethau o blanhigion. Ar y llaw arall, mae nifer o blanhigion yn mynd i ddifodiant bob blwyddyn oherwydd colli cynefin a newid hinsawdd.” Ym Mhrydain, mae tua ugain y cant o’r planhigion blodeuol brodorol dan fygythiad.
Bydd yr arddangosfa yn yr Ardd rhwng dydd Iau, Hydref 6ed tan Chwefror 2012.









Phenomenal work Emma – I love it ! Very well done!
Hilary M – Bristol.